Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Genedlaethol Diogelu 2022

Published: 11/11/2022

Safeguarding Logo 2022 - Cymraeg.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Diogelu sy’n rhedeg o ddydd Llun 14 Tachwedd i ddydd Gwener 18 Tachwedd. 

Gan weithio gyda phartneriaid o gynghorau lleol, y maes iechyd, y gwasanaethau brys, y trydydd sector ac eraill, bydd Byrddau Diogelu ar draws Cymru yn codi ymwybyddiaeth pawb o ystyr diogelu a’r nifer o sefyllfaoedd lle gall godi. 

Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a sicrhau eu lles.  Mae sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a hapus yn rhan bwysig o ddiogelu hefyd.  

Y thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu eleni yw “Chwilfrydedd Proffesiynol”. Gweler fideo "Gweld Rhywbeth, Dweud Rhywbeth".

Fel Cefnogwyr Diogelu Corfforaethol y Cyngor, rhoddodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin ddatganiadau angerddol mewn cyfarfod diweddar y Cyngor.   Eu nod oedd codi ymwybyddiaeth bod angen i bawb sicrhau bod yr holl aelodau o’n cymdeithas, yn enwedig y rhai mwyaf diamddiffyn, yn cael eu diogelu rhag yr arferion maleisus hyn. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles: 

“Mae diogelu oedolion, pobl ifanc a phlant yn flaenoriaeth i’r Cyngor bob dydd o bob mis.   Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i gadw pobl yn ddiogel o ddifrif. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd i amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl, beth bynnag yw ein rôl yn y Cyngor. 

“Mae’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yng Nghymru yn nodi mai camfanteisio ar weithwyr yw’r ail ffurf fwyaf cyffredin o gaethwasiaeth fodern yng Ngogledd Cymru, ar ôl camfanteisio rhywiol, gyda’r sectorau amaeth, bwyd, lletygarwch ac adeiladu yn agored iawn i arferion llafur gorfodol.”  

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol:

“Rydym yn cefnogi Wythnos Ddiogelu yn llwyr a fydd yn tynnu sylw at faterion diogelu yn cynnwys camfanteisio’n rhywiol ar blant, masnachu mewn pobl, caethwasiaeth fodern, radicaleiddio a throseddau rhyw difrifol.  

“Mae’r mentrau sydd wedi cael eu cymryd gan y Cyngor i amddiffyn pobl yn cynnwys annog pobl i wneud yr addewid Bydd Garedig Ar-lein i atal seibrfwlio.   Ond mae dal llawer o waith i’w wneud. 

Ein prif neges yw “mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb” - mae angen i bob un ohonom allu adnabod yr arwyddion a gwybod sut i adrodd am bryderon.  Mae’n rhaid i hyn fod wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud fel Cyngor, pan rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus eraill ac, yn bwysicaf oll, fel arweinwyr cymuned.   Mae’n bwysig bod gan bob un ohonom ni fwy o ymwybyddiaeth o’r materion a’n bod yn amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl.” 

I gael gwybod mwy am ddiogelu ac am fwy o fanylion am y digwyddiadau ar draws Gogledd Cymru, ewch i: Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru.