Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Difrod i goed yng Nghei Connah

Published: 02/11/2022

Press release photo 1.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi condemnio gweithred o fandaliaeth yn erbyn ei goed, ar ôl i dair coeden aeddfed gael eu torri i lawr yn fwriadol yng Nghei Connah. 

Digwyddodd hyn ddydd Llun 17 Hydref ar gaeau chwarae Ffordd Fron. Targedodd fandaliaid goed aeddfed, sefydledig a oedd yn rhan annatod o'r safle, gan ddarparu buddion i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth ond hefyd yn nodwedd boblogaidd i ddefnyddwyr lleol. Bydd angen cael gwared ar weddillion y coed hyn yn awr a bydd y cyngor yn ceisio cael rhai newydd yn eu lle y gaeaf hwn. 

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

“Rwyf wedi fy siomi clywed am y fandaliaeth annerbyniol hon, mae’r Cyngor yn gweithio’n galed iawn i leihau carbon i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd a chynyddu ein bioamrywiaeth, ond mae ymddygiadau fel hyn yn gwneud ein gwaith hyd yn oed yn galetach a bydd yn costio’n ariannol i drigolion Sir y Fflint ac o ran ansawdd eu hamgylchedd naturiol.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn, ffoniwch Crime Stoppers ar 0800 555 111. 

 

Press release photo 2.jpg     Press release photo 3.jpg