Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Glanrafon yn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd wrth i'r gwaith adeiladu gwerth miliynau o bunnoedd ddod i ben

Published: 14/11/2022

Photo 1.jpgYmwelodd y Gweinidog Addysg ac Iaith Gymraeg, Jeremy Miles AS ag Ysgol Glanrafon yn ddiweddar.

Croesawodd ysgol gynradd Gymraeg yr Wyddgrug y Gweinidog wrth i staff a disgyblion ddangos y gwaith adnewyddu ac ymestyn sylweddol ar y safle. 

Penododd Cyngor Sir y Fflint Wynne Construction i  uwchraddio'r ysgol gyda'r nod o hybu lefel mynediad i addysg Gymraeg yn y sir. 

Mae'r datblygiad newydd gwerth £4m wedi gweld adeiladu estyniad chwe ystafell ddosbarth, prif fynedfa newydd, ac ailfodelu adeilad presennol yr ysgol ar Lôn Bryn Coch.

Gosodwyd darpariaeth cyn-ysgol bwrpasol ychwanegol hefyd ar dir Ysgol Glanrafon ar ei newydd wedd a fydd yn darparu cynnig gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg di-dor i blant a theuluoedd cyn iddynt drosglwyddo i addysg statudol. Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n manteisio ar ddarpariaeth cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg yn llawer mwy tebygol o barhau â’u haddysg drwy’r Gymraeg, sy’n hynod bwysig i’r strategaeth genedlaethol ar gyfer miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Croesawyd y prosiect, a ariannwyd drwy grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, gan y Gweinidog a ddywedodd:

“Mae wedi bod yn wych gweld y datblygiadau newydd yn Ysgol Glanrafon, sy’n hanfodol er mwyn cyflawni ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwyf am weld addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i bawb ac rwyf am i bawb gael cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet Addysg, Y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:

“Mae'n fraint gen i eto gallu dangos ysgol gynradd arall o’r radd flaenaf i'r Gweinidog - carreg filltir arall yn narpariaeth rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint.  Mae’r buddsoddiad hwn yn darparu cyfleuster modern gwych i blant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach ac yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig newydd i blant ysgol gynradd.”

Dywedodd Mark Wilson, rheolwr prosiect yn Wynne Construction: 

“Fel busnes â’i wreiddiau’n ddwfn yng Ngogledd Cymru, mae wedi bod yn wych darparu’r buddsoddiad mawr hwn mewn addysg cyfrwng Cymraeg i’r ardal.  Mae disgyblion wedi gallu dechrau’r flwyddyn mewn adeilad modern gyda chyfleusterau ysgol gwell, a fydd ond yn cael effaith gadarnhaol ar eu profiadau dysgu.” 

I gyd-fynd ag agwedd ‘ffabrig yn gyntaf’ Wynne at adeiladu’r safle a’i ymrwymiad i ddatblygiad cynaliadwy, defnyddiwyd system canllaw amgen heb sgaffaldiau i sicrhau diogelwch gweithwyr ar y to yn ystod y gwaith adeiladu.

Roedd y system, a oedd angen trawst pren dros dro ar hyd ymyl y to, yn caniatáu i lwyfannau gweithio uchel symudol (MEWPs) symud ymlaen â gwaith ar y ffasadau gyda mwy o hyblygrwydd. 

Mae'r deunydd dros dro wedi'i ail-bwrpasu fel planwyr ar ôl cwblhau'r gwaith adeiladu, a disgwylir i'r planwyr gael eu rhoi i gynlluniau eraill y mae'r cwmni'n gweithio arnynt yn Sir y Fflint, gan gynnwys prosiect Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint.

Mae’r ailddatblygiad yn nodi un o’r newidiadau mwyaf i’r ysgol ers iddi agor yn 1949, gyda’r safle bellach yn fwy addas ar gyfer darparu cyfleoedd dysgu Cymraeg i blant rhwng 3 ac 11 oed. 

Adnabuwyd ailddatblygiad Ysgol Glanrafon gan Lywodraeth Cymru fel un sy’n debygol o gynorthwyo gyda’i tharged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

  Photo 3.jpgPhoto 2.jpg