Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn merched

Published: 25/11/2022

White Ribbon.jpgMae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto wedi dangos ei gefnogaeth i Ymgyrch y Rhuban Gwyn i roi diwedd ar drais yn erbyn merched.

Nodir Diwrnod y Rhuban Gwyn ledled y byd, a dyma’r fenter fyd-eang fwyaf i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn merched drwy alw ar ddynion i gymryd camau i wneud gwahaniaeth. 

Mae Aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gwisgo rhubanau gwyn i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch sy’n ceisio cael gwared ar bob math o drais yn erbyn merched, ac fe ddaethon nhw ynghyd yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug heddiw i godi baner mewn cefnogaeth.  Drwy wisgo rhuban gwyn rydych yn gwneud addewid na wnewch chi byth gyflawni, esgusodi na chadw’n dawel am drais dynion yn erbyn merched.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

“Fel Aelod Cabinet, aelod o Banel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac Ymddiriedolwr ac Aelod o Fwrdd Uned Diogelu rhag Cam-drin Domestig Gogledd Cymru, rwy’n ymwybodol iawn o broblem sylweddol trais yn erbyn merched a genethod. Yn anffodus, mae’n parhau i fod yn gyffredin ac, mewn gwirionedd, wedi cynyddu yn ystod y pandemig a'r cyfnod clo.  Mae angen i ni i gyd fod yn wyliadwrus drwy'r amser a rhoi gwybod i'r heddlu am bob achos o'r fath fel y gellir dwyn y cyflawnwyr o flaen eu gwell a'u cosbi am y drosedd ddirmygus hon.

“Mae Sir y Fflint wedi bod yn cefnogi’r achos yn frwd ers blynyddoedd lawer, ac wedi cael canmoliaeth gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn am y gwaith a wnawn.  Mae’n bwysig ein bod ni fel sefydliad yn helpu i godi ymwybyddiaeth drwy ddangos ein hymrwymiad a chefnogi gweithgareddau yn ystod yr adeg bwysig hon o’r flwyddyn."

I gael rhagor o fanylion am yr ymgyrch, neu i ddangos eich cefnogaeth, dilynwch y ddolen ganlynol:  www.whiteribboncampaign.co.uk

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800. 

Dilynwch White Ribbon UK ar twitter: @WhiteRibbon_UK.