Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwella Bioamrywiaeth yn Sir y Fflint
Published: 16/11/2022
Bydd Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn croesawu’r cynnydd a wnaed parthed Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor 2020-2023, pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth, 22 Tachwedd.
‘Cefnogi Natur yn Sir y Fflint’ yw cynllun y Cyngor i warchod a gwella bioamrywiaeth, a chyflawni ei ddyletswydd dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae’r llwyddiannau’n cynnwys:
- Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth i osod bioamrywiaeth drwy gydol y broses o wneud penderfyniadau yn yr Awdurdod;
- Cydnabod gwerth bioamrywiaeth mewn dogfennau allweddol, gan gynnwys cynlluniau a pholisïau’r cyngor;
- Newid rheolaeth glaswelltir amwynder o blaid amrywiaeth o flodau gwylltion a defnyddio system rheoli chwyn heb gemegion ar 11.8 hectar i sicrhau y rheolir glaswelltir mewn ffordd sy’n gyfeillgar i natur;
- Cyflawni prosiectau bioamrywiaeth sydd wedi eu hariannu’n allanol, gan gynnwys plannu perllannau a choed, adfer pyllau, plannu bylbiau a blodau gwylltion cynhenid;
- Cynnal digwyddiadau i ysbrydoli, addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd, gan gynnwys Bioblitz a digwyddiadau cofnodi gloÿnnod byw, teithiau cerdded a sgyrsiau am ystlumod a phlanhigion, ein diwrnod coed, digwyddiadau tasgau gwirfoddoli, ymysg eraill;
- Cefnogi rhaglen fioamrywiaeth a chynaliadwyedd Cefnogwyr Eco Sir y Fflint ar gyfer ysgolion cynradd;
- Rhaglenni monitro rhywogaethau ar gyfer rhywogaethau a warchodir neu rai sydd mewn perygl, gan weithio’n aml â gwirfoddolwyr;
- Gwaith i fynd i’r afael â bygythiad clefyd coed ynn a rhaglen barhaus o blannu coed yn unol â Chynllun Coed a Choetiroedd Trefol, gan blannu mwy na 23,000 o goed yn y 4 blynedd diwethaf.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i ehangu a gwella ei waith i gynnal bioamrywiaeth leol, a fydd yn cyfrannu tuag at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yr ydym yn ei wynebu.
Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd ac Economi’r Cyngor, y Cynghorydd David Healey:
“Mae’r cynnydd mae Cyngor Sir y Fflint wedi ei wneud wrth gyflawni Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth yn bendant yn rhywbeth i’w ddathlu.
“Mae gennym gyfrifoldeb i fod yn gynaliadwy ac arwain drwy esiampl wrth warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol.
“Mae’r cynnydd hwn yn drawiadol. Rwyf wrth fy modd gyda’r adroddiad a’r maint sylweddol o gynnydd mae swyddogion wedi ei wneud i gyflawni ein hamcanion, sy’n hanfodol wrth fynd i’r afael â’r her o wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a chymryd camau cadarnhaol tuag at effeithlonrwydd carbon a’n strategaeth newid hinsawdd.”
Ym mis Ionawr 2023 bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am ei waith parhaus yn ymwneud â gwella bioamrywiaeth.