Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfleuster Gofal Preswyl Newydd yn Fflint

Published: 16/11/2022

Croes Atti 2.pngFel rhan o gynlluniau uchelgeisiol rhaglen Llywodraeth Cymru i ailgydbwyso gofal, gofynnir i aelodau’r Cabinet gefnogi prosiect ‘Croes Atti 2’, blaenoriaeth strategol i Wasanaethau Cymdeithasol, pan fydd yn cyfarfod dydd Mawrth, 22 Tachwedd.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gynyddu capasiti gofal preswyl mewnol ar draws y sir, ac yn dilyn llwyddiant adeilad newydd yn Marleyfield House ym Mwcle, mae’r Cyngor yn edrych i mewn i gynyddu capasiti yn Fflint.

Yn dilyn gwerthusiad dewisiadau a dyluniadau safle, cafodd safle ar Cornist Road lle’r oedd yr hen Ysbyty Cymuned Fflint yn arfer bod, ei drosglwyddo’n ffurfiol i’r Cyngor ar ddechrau’r flwyddyn.

Gan roi sylw ar y gweithgareddau prosiect allweddol sydd gerllaw, gan gynnwys datblygu a gweithredu model weithredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Christine Jones:

“Yn ystod y flwyddyn rydym wedi cyflawni astudiaeth ddichonoldeb i helpu penderfynu pa fath o adeilad y gellir ei roi ar hen safle Ysbyty Cymuned Fflint.  Rwy’n falch bod dewis ar gyfer adeilad gyda lleoliad i 56 wedi cael ei ddatblygu, a fydd yn ein galluogi i ddatblygu ar gyfnod dylunio manwl.

“Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r tîm adeiladau i sicrhau bydd yr adeilad yn gallu darparu gofal o ansawdd orau i breswylwyr Sir y Fflint.  Bwriad y cyfleuster gofal preswyl newydd yw cynnwys 56 ystafell en-suite, nifer o fannau byw a bwyta hygyrch, ystafell ymwelwyr a man swyddfa ar gyfer staff Gwasanaethau Cymdeithasol a chydweithwyr o’r maes Iechyd.  

“Rwy’n falch y bydd y cyfleuster gofal preswyl newydd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer cymorth therapiwtig, a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia.”

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn datblygu cynlluniau dylunio manwl a fydd yn edrych ar y prif elfennau o’r adeilad gan gynnwys pensaer tirlunio, swyddogaeth mannau ar draws yr adeilad, hygyrchedd i breswylwyr i fannau gwag cymunedol, a defnyddiau a ddefnyddir.

Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Medi 2023 am oddeutu 15 mis.  Rhagwelir bydd y cyfleuster gofal preswyl newydd yn agor ac yn weithredol ar ddechrau 2025.