Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cam Cyntaf Rhwydwaith Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Sir y Fflint
Published: 28/02/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi dechrau i’r weledigaeth
trafnidiaeth strategol gyda gwaith adeiladu seilwaith llwybr beiciau a safle
bws ar Barth 3, Parth Menter Glannau Dyfrdwy diolch i gyllid grant gan
Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith yn cynnwys llwybr beiciau i bob busnes ar y parth, seilwaith
safle bws newydd yn cynnwys cabanau aros bysiau newydd, rheoli parcio ar y
stryd a system un ffordd.
Mae’r gwaith i fod i ddechrau dydd Llun, 5 Mawrth a bydd yn para am 12 wythnos.
Bydd mynediad i eiddo a busnesau unigol ar gael, er maen bosib y bydd peth
oedi pan fydd gwaith yn cael ei wneud.
Mae Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr Roadway Civil Engineerig Ltd yn
ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol
hwn yn ei achosi, a byddwn yn gwneud y gwaith cyn gynted ag y gallwn.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd
Carolyn Thomas:
“Rydw i’n falch iawn ein bod yn bwrw ‘mlaen gyda gweledigaeth trafnidiaeth ar
gyfer Sir y Fflint a Gogledd Cymru, i gysylltu pobl gyda’r ardal waith pwysig
hon. Dyma un o sawl cynllun cyffrous sydd ar y gweill a fydd yn integreiddio
pob dull trafnidiaeth i annog gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy,
fforddiadwy ac ecogyfeillgar. Mae cam allweddol hwn y cynllun yn dangos
ymrwymiad y gweinyddwr presennol i’r rhwydwaith trafnidiaeth gan gydweithio
gyda Llywodraeth Cymru. Wrth symud ymlaen, byddwn yn chwilio am gyfleoedd o
bob ardal iw cysylltu â datrysiadau trafnidiaeth gynaliadwy.”