Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru
Published: 05/03/2018
Mae gwaith Cyngor Sir y Fflint gyda phreswylwyr diamddiffyn a’r rhai sy’n profi
tlodi tanwydd wedi’i gydnabod mewn digwyddiad gwobrwyo cenedlaethol.
Sefydlwyd Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru i ddathlu arfer da yn
y sector effeithlonrwydd ynni a chydnabod rhagoriaeth gan y sector preifat,
cyhoeddus a gwirfoddol yn eu gwasanaeth i’w cymuned leol.
Enillodd Cyngor Sir y Fflint y wobr “Corff Awdurdod Lleol y Flwyddyn” am ei
raglenni effeithlonrwydd ynni domestig a chafodd Gymeradwyaeth Uchel yn y
categori “Ymgyrchwr Cymorth i Gwsmeriaid Diamddiffyn y Flwyddyn” am y cymorth
mae’n ei roi i aelwydydd mewn partneriaeth â Chanolfan Cyngor Ynni Gogledd
Cymru.
Mae’r Gwobrau hyn yn gwobrwyo un cyngor neu sefydliad eithriadol, ym mhob un
o’r 11 ardal ranbarthol ar draws y DU, sydd wedi dangos ymrwymiad real i
hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd yn eu rhanbarth.
Mae rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach hefyd wedi cael cydnabyddiaeth yn y wobr
“National Energy Action and Scottish Power Heat Hero”. Roedd Joanna Seymour,
rheolwr prosiect y rhaglen, yn un o ddim ond 15 o enillwyr a ddewiswyd o bob
cwr o Gymru a Lloegr a fynychodd dderbyniad yn Nhy’r Cyffredin yn ddiweddar.
Er iddi gael ei henwebu ar gyfer y Wobr fawreddog hon, mae Joanna am ailadrodd
bod llwyddiant menter Cartrefi Iach Pobl Iach yn ymdrech tîm ac mae’r wobr yn
cydnabod gwaith caled holl aelodau Tîm Effeithlonrwydd Ynni y Cyngor
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
“Rwyf wrth fy modd bod gwaith caled y Cyngor yn y maes hwn wedi’i gydnabod ar
lefel genedlaethol. Mae’r tywydd garw diweddar yn Sir y Fflint yn pwysleisio
pa mor bwysig yw’r gwaith arloesol hwn sy’n cael ei wneud gan y Cyngor a’i
bartneriaid. Gallwn gynnig ymateb amlasiantaeth cyfannol i ddiwallu anghenion
aelwydydd diamddiffyn. Trwy weithio gyda’n rhwydwaith o bartneriaid, byddwn yn
parhau i wneud gwahaniaeth sylweddol i’r bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
“Caiff rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach, yn benodol, ei chydnabod am ei dull
arloesol sy’n dilyn dull sy’n canolbwyntio ar unigolion i fynd i’r afael ag
anghenion unigol i wella eu hiechyd a’u lles. Llongyfarchiadau i Joanna a’r
tîm i gyd am eu gwaith gwych ac am gael y wobr genedlaethol fawreddog hon.”
Os gallech chi fanteisio o gael help gan y tîm, neu os ydych yn ymwybodol o
rywun a allai fanteisio, neu os hoffech ragor o fanylion, cysylltwch ar 01352
703425 neu healthyhomesHP@flintshire.gov.uk.