Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arwyr ym Mharc Gwepra ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru
Published: 14/03/2018
Cymerodd Cyngor Sir y Fflint rhan o ddigwyddiad Gwanwyn Glân Cymru eleni yn
ddiweddar.
Ymgyrch genedlaethol yw hon i annog pobl ar draws Cymru i ddod ynghyd i helpu i
lanhau ein Cymru hardd! Mae’r digwyddiad yn rhan o Wanwyn Glân Prydain, ac mae
Cadwch Gymru’n Daclus yn awyddus i ysbrydoli pobl Cymru i fynd allan i’r awyr
agored, bod yn heini a bod yn falch o lle maent yn byw.
Cynhaliwyd digwyddiad glanhau ym Mharc Gwepra, wedii drefnu gan Gyfeillion
Parc Gwepra ac wedi ei gefnogi gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint.