Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y diweddaraf am Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug
Published: 16/03/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo dyraniad arian cyfalaf i
fwrw ymlaen i ddymchwel Camau 3 a 4 o Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug a’r
gweithgarwch ehangach i ailddatblygu’r safle.
Mae’r Cyngor yn paratoi sawl darn o waith wedi eu cysylltu ag ailddatblygu
Campws yr Wyddgrug ynghyd ag adleoli nifer fawr o’r gweithlu i Unity House yn
Ewlo.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Mae sawl cam i’r prosiect a fydd yn gweld staff yn cael eu hadleoli i Unity
House, yn Ewlo, ac i ddechrau byddwn yn gweld y gwaith o ddymchwel camau 3 a 4
sydd eisoes yn wag. I ddilyn hyn, bydd rhaglen o waith adfywio manylach ar
gyfer y safle cyfan ac, i gyflawni hyn, byddwn yn chwilio am bartner datblygu
i’n cynorthwyo i adfywio’r safle ar ôl dymchwel yr adeilad. Mae hwn yn gyfnod
cyffrous ac yn brosiect cymhleth ac rydym yn teimlo’n sicr y bydd yn denu’r
math cywir o bartneriaid arloesol a llawn gweledigaeth.
“Mae Neuadd y Sir yn hen adeilad sydd wedi cyflawni ei ddiben yn effeithiol
ers sawl blwyddyn. Serch hynny, mae hefyd yn adeilad costus i’w gynnal ac mae
angen i’r Cyngor edrych ar yr holl ddewisiadau sydd ar gael iddo i greu
arbedion effeithlonrwydd yn yr hinsawdd ariannol heriol hwn. Rydym wedi bod yn
cynnal arolwg o’n hasedau eiddo corfforaethol ers tro ac roeddem bob amser yn
mynd i gyrraedd sefyllfa lle byddai ein ffocws a’n pwyslais yn troi tuag at
Neuadd y Sir. Mae ein cynigion ar gyfer y safle yn uchelgeisiol ac mae’r
gwaith yn gymhleth ond mae’r canlyniadau yn bwydo i mewn i’n strategaeth
ariannol tymor canolig ac yn y pen-draw bydd yn cefnogi ac yn diogelu
gwasanaethau rheng flaen.”