Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd
Published: 28/03/2018
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yn cael ei gynnal rhwng 26 Mawrth a
2 Ebrill 2018.
I ddathlu’r wythnos, mae Gwasanaeth Integredig Awtistiaeth Gogledd Cymru (IAS)
yn ariannu nifer o weithgareddau ar draws y rhanbarth mewn partneriaeth â
Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir y Fflint (CGGSFf), Cyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd), Medrwn Môn a Mantell Gwynedd. Mae’r
gweithgareddau’n cynnwys hyfforddiant Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, sesiynau galw
heibio”, grantiau bychan, edrych ar yr angen am wasanaethau cymunedol i
unigolion awtistig a hyrwyddo’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng Ngwasanaethau Awtistiaeth Integredig yng
Nghymru a bydd y gwasanaeth yng Ngogledd Cymru yn cael ei redeg ar y cyd rhwng
Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe fydd
Gwasanaeth Awtistig Integredig yn darparu gwasanaethau diagnostig i oedolion;
cefnogaeth gydol oes i unigolion awtistig (plant ac oedolion) eu teuluoedd a
gofalwyr; cymorth i symud o ddarpariaeth plant i ddarpariaeth oedolion a
hyfforddiant i weithwyr proffesiynol.
Ethos y gwasanaeth yw sicrhau bod unigolion awtistig a’u gofalwyr yn gallu cael
gafael ar gyngor, cefnogaeth ac ymyriadau sydd eu hangen i’w galluogi i
gyrraedd eu llawn botensial. Nod y gwasanaeth yw gweithio mewn partneriaeth â
gwasanaethau sydd eisoes wedi’u sefydlu ac nid eu disodli.
Mae gwasanaeth gogledd Cymru wrthi’n cael ei ddatblygu, a bydd yn cael ei
lansio mewn camau o fis Mehefin 2018.
Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
“Mae plant ac oedolion awtistig yn aml yn cael anhawster deall y byd a gall
ffitio mewn i gymdeithas fod yn heriol. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth yn
lleol am awtistiaeth a’i effaith ar unigolyn ac aelodau eu teulu a’u gofalwr.
Mae’r gwaith sy’n cael ei gynnal yng ngogledd Cymru yn hanfodol i sicrhau bod
cefnogaeth a dealltwriaeth yn parhau i dyfu.
I gael rhagor o wybodaeth am Awtistiaeth, ewch i www.asdinfowales.co.uk ac ar
gyfer Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ewch i
www.asdinfowales.co.uk/gwasanaeth-awtistiaeth-integredig