Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant gyda Chyllid
Published: 28/03/2018
Yn dilyn cynnig llwyddiannus i Lywodraeth Cymru ym Mawrth y llynedd o dan y
fenter ariannu Ffyrdd Diogelach mewn Cymunedau, mae Cyngor Sir y Fflint yn
falch o gyhoeddi bod gwaith wedi dechrau i gyflawni gwelliannau diogelwch sydd
mawr eu hangen ac y gofynnwyd amdanynt yn ardal Ysgol Bryn Coch.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydlun a Chefn Gwlad
Cyngor Sir y Fflint:
“Dwi’n falch ein bod wedi gallu cynnwys y gwelliannau hyn sydd mawr eu hangen
fel rhan o gynllun ariannu Llywodraeth Cymru a fydd yn gwella mynediad i
deuluoedd ar gyfer grwpiau cerdded i mewn syn defnyddio pramiau, beiciau a
sgwteri. Mae annog teithio llesol ac iach yn y gymuned fel ffordd arall i
gyrraedd rhywle yn lle defnyddio’r car yn siwr o wella tagfeydd traffig yn fawr
o gwmpas yr ysgol yn ogystal â gwella diogelwch ar gyfer y defnyddwyr ffordd
fwyaf diamddiffyn.