Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Disgyblion yn cymryd rhan mewn seremoni i dorrir dywarchen
Published: 01/05/2018
Roedd disgyblion yn Ysgol Penyffordd wedi eu cyffroi i fod yn rhan o’r seremoni
swyddogol i dorri’r dywarchen a gynhaliwyd yn ddiweddar ar safle eu hysgol
newydd.
Penododd Cyngor Sir y Fflint y cwmni lleol Wynne Construction, sydd wedi eu
lleoli ym Modelwyddan i adeiladu cyfleuster ysgol gynradd yr 21ain Ganrif
newydd gwerth miliynau o bunnoedd. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a
Chyngor Sir y Fflint fel rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif
Llywodraeth Cymru. Bydd yr ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant
3-11 oed yn uno ar safle Abbotts Lane, yn ogystal â dymchwel yr ysgol bresennol
i fabanod ac adeiladu maes parcio gwell a mwy ar gyfer staff ac ymwelwyr a
chreu ardal ollwng benodol i rieni a gofalwyr.
Bydd yr ysgol newydd bwrpasol hon yn cynnwys neuadd a stiwdio ac ystafelloedd
dosbarth ar gyfer 315 o ddisgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau
allweddol 1 a 2. Bydd y cae a’r ardaloedd chwaraeon yn cael eu cadw.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
“Dyma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn
Sir y Fflint. Bydd y buddsoddiad o bron i £7 miliwn yn darparu cyfleuster
modern bendigedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach a bydd yn
cynnig profiad dysgu newydd, llawn ysbrydoliaeth i blant ysgolion cynradd.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg Kirsty Williams:
“Mae’n wych i weld fod gwaith yn dechrau rwan ar yr Ysgol Penyffordd newydd.
Bydd yr ysgol newydd yn cynnig gwell cyfleusterau i staff, disgyblion a’r
gymuned ehangach. Dyma un o’r prosiectau diweddaraf i ddechrau fel rhan on
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif ac rwy’n edrych ymlaen at weld y
gwaith yn mynd yn ei flaen.”
Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction:
“Rydym wrth ein boddau i gael ein dewis fel y contractwr ar gyfer y prosiect
newydd cyffrous hwn gyda Chyngor Sir y Fflint. Gan fod y disgyblion wedi ein
helpu i ddechrau’r prosiect, edrychwn ymlaen at drefnu ymweliadau safle yn
ystod y gwaith adeiladu, er mwyn iddyn nhw weld o’r tu mewn sut mae eu hysgol
yn tyfu. Byddwn hefyd yn darparu cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol, i wneud
yn siwr fod buddion y buddsoddiad mawr hwn yn cael eu gwasgaru mor eang a
phosibl.“
Mae’r prosiect hwn yn dilyn gorffen Campws Dysgu Treffynnon a Choleg Chweched
Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn llwyddiannus, ac mae disgwyl i’r gwelliannau
moderneiddio presennol sy’n digwydd yn Ysgol Uwchradd Cei Connah gael eu
cwblhau yn ystod haf 2019.