Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwelliannau Maes Parcio
Published: 27/04/2018
Fel rhan o waith gwella tair cyngor yn Sir y Fflint, mae’r diweddaraf mewn
cyfres o welliannau meysydd parcio wedi’i gwblhau ym Magillt.
Er nad oedd yn ofynnol yn gyfreithiol i wneud y gwaith hwn, roedd y Cyngor wedi
gweld cyfle i wella’r amgylchedd, gwella diogelwch trigolion ac ychwanegu at
ansawdd bywyd trigolion.
Roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd
Bernie Attridge wedi ymweld â Bron Haul, Bagillt yn ddiweddar gyda’r aelod
lleol, y Cynghorydd Mike Reece i weld y gwaith dros ei hun. Dywedodd:
“Sir y Fflint oedd y Cyngor cyntaf i ddechrau adeiladu tai cyngor mewn
cenhedlaeth sy’n dangos pa mor ymroddedig ydyn ni i ddarparu tai o ansawdd i’n
trigolion. Rydym hefyd yn parhau ein rhaglen o welliannau i eiddo presennol
y cyngor drwy ddiweddaru eu ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri a
nodweddion allanol eraill. Yn ychwanegol at hynny, rydym yn gwneud gwaith
gwella allanol arall sy’n cynnwys creu cyfleusterau meysydd parcio addas i’n
trigolion.”
Dywedodd y Cynghorydd Mike Reece:
“Mae’r gwelliant hwn i’r maes parcio yn wych i’r ardal a’r trigolion lleol.
Hoffwn ddiolch ir tîm tai am wneud gwaith gwerth chweil!
Daw’r gwelliannau hyn ym Magillt yn dilyn cynlluniau eraill ar draws y sir yng
nghanolfan Llys Tywysog Cymru ym Mwcle, yn y Strand, Treffynnon a Heron Close
ym Mrychdyn sydd wedi derbyn croeso mawr gan drigolion.