Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Llwybr Beiciau Oakenholt

Published: 09/05/2018

Mae’r llwybr beiciau sy’n rhedeg o Groes Atti i Gei Connah yn cael ei ddiweddaru. Gan gychwyn ar ochr ddwyreiniol Y Fflint, bydd yr aliniad presennol yn cael ei ddiweddaru i safon dyluniad Deddf Teithio Llesol (Cymru) drwy ehangu’r lled i tua 2.5 medr. Ar hyn o bryd, y lled yw 1.5 medr. Yn ddiweddar bu Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas yn ymweld â’r safle i weld y gwaith yn cael ei wneud. Meddai: “Bydd hwn yn welliant gwych ac yn gwneud y llwybr yn llawer mwy diogel i feicwyr ar ffordd brysur iawn. Mae’r arwyneb yn cael ei ailosod gyda tharmac fydd yn cael ei osod â pheiriant (arwyneb tarmac bras sydd arno ar hyn o bryd). Bydd gwell mannau croesi hefyd, a gwell llefydd croesi is wrth fynedfeydd preifat a bydd y llwybr yn darparu cysylltiadau beicio â’r rhwydwaith beicio presennol. Mae’n gynllun gwych arall sy’n cael ei roi at ei gilydd gan swyddogion technegol Gwasanaethau Stryd ac a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru fel cais am arian grant o dan y cynllun Teithio Llesol.”