Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Busnes NEW Homes
Published: 17/05/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint roi ei gymeradwyaeth i Gynllun Busnes
Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW Homes) 2018/2027 a’r broses gymeradwyo
arfaethedig ar gyfer benthyciadau newydd i NEW Homes ar gyfer datblygu neu
brynu cartrefi fforddiadwy yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 22 Mai.
Mae NEW Homes yn gwmni tai y mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen arno, a
sefydlwyd ym mis Ebrill 2014 i gynyddu nifer, ansawdd a dewis tai fforddiadwy
sydd ar gael yn y sir ar gyfer y rhai hynny nad ydynt efallai’n gymwys am dai
cymdeithasol, ond fod mynediad i’r farchnad dai yn anfforddiadwy iddynt neu ei
bod yn anodd iddynt gael mynediad iddo.
Yn ogystal, mae NEW Homes yn darparu gwasanaeth proffesiynol i landlordiaid fel
asiant rheoli fel modd o gynyddu argaeledd tai fforddiadwy o safon.
Mae’r Cynllun Busnes yn amlinellu elfennau allweddol cynllun twf arfaethedig y
cwmni i gynyddu nifer yr eiddo a reolir ac y maent yn berchen arnynt fel tai
fforddiadwy dros y ddeng mlynedd nesaf, mae hyn yn cynnwys cartrefi i’w
datblygu drwy’r Rhaglen Dai ac Adfywio Strategol (SHARP), eiddo Adran 106, lle
mae datblygwyr tai yn diwallu eu hymrwymiad tai fforddiadwy ac eiddo posibl yn
cael eu caffael drwy fenthyca yn erbyn asedau presennol.
Mae The Walks, cynllun adeiladu newydd a ddatblygwyd dan SHARP yn cynnwys 62 o
dai a fflatiau fforddiadwy, a bydd y cyfan ohonynt yn cael eu trosglwyddo i NEW
Homes erbyn diwedd mis Mai 2018. Mae cynigion hefyd yn cael eu datblygu ar
gyfer 39 eiddo arall a fydd yn cael eu darparu drwy SHARP.
Mae NEW Homes ar hyn o bryd wedi darparu 37 o gartrefi dan Gytundebau Adran
106, ac mae disgwyl i 28 o gartrefi eraill gael eu codi dros y 5 mlynedd nesaf.
Er bod nifer y gosodiadau a reolir wedi bod yn tyfu’n gymharol araf, mae NEW
Homes wedi llwyddo i gadw mwyafrif y landlordiaid unwaith y byddant wedi ymuno.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint;
“Mae NEW Homes wrthi’n cynyddu’r dewis o dai ar gyfer y rhai hynny nad ydynt
efallai’n gymwys i gael tai cymdeithasol ond fod y farchnad dai’n anfforddiadwy
iddynt neu’n anodd cael mynediad iddi. Rwyf wrth fy modd fod cynllun arloesol
SHARP y Cyngor wedi rhyddhau cymaint o gartrefi fforddiadwy ers iddo ddechrau
yn 2015.
“Mae’r cynllun busnes diwygiedig wedi cael ei gefnogi gan arbenigedd
annibynnol ac ym mis Mawrth 2018 cafodd ei gymeradwyo gan NEW Homes fel cynllun
twf y gellir ei gyflawni ai gynnal dros y ddeng mlynedd nesaf.”
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai:
“Mae perthynas waith gadarnhaol iawn wedi datblygu rhwng y Cyngor, NEW Homes a
phartneriaid adeiladu. Mae hyn wedi rhyddhau eiddo ar renti fforddiadwy, gan
helpu pobl leol i aros yn eu cymunedau lleol eu hunain drwy Gytundebau Adran
106.
“Mae hefyd yn bwysig iawn i nodi fod gosodiadau wedi eu rheoli yn cynyddu’r
ystod o ddewisiadau o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae NEW Homes a’r Cyngor yn
datblygu dewisiadau ar y cyd o ran sut y gall y gosodiadau wedi eu rheoli hyn
weithio’n fwy effeithiol a thyfu.”