Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint mewn Busnes
Published: 25/05/2018
Cafodd rhaglen fusnes Cyngor Sir Y Fflint, Sir Y Fflint mewn Busnes, ei lansio
mewn digwyddiad yn Neuadd Sychdyn yn ddiweddar.
Roedd nifer o fusnesau lleol yn bresennol yn y digwyddiad i glywed beth sydd
gan Sir Y Fflint mewn Busnes i’w gynnig trwy gydol 2018.
Wedii gynnwys mae digwyddiadau cyfryngau cymdeithasol a phresenoldeb ar-lein,
cyllid, twf busnes a chyfleoedd i hybu cyfleoedd lleol i ddisgyblion ysgol a
choleg.
Bydd Gwobrau Poblogaidd Busnes Sir Y Fflint yn cael ei gynnal yn Neuadd Sychdyn
ar 19 Hydref.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Y Fflint, Y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Unwaith eto, mae Sir Y Fflint mewn Busnes yn cynnig ystod o ddigwyddiadau,
wedi’u trefnu gyda’n partneriaid, sy’n cynnwys ystod o bynciau diddorol ac yn
cefnogi datblygiad economaidd ein rhanbarth.”
Dywedodd Llywydd Sir Y Fflint mewn Busnes, Yr Arglwydd Barry Jones:
“Mae hon yn fenter hynod a fydd yn hyrwyddo ein heconomi gwych yma yng
Ngogledd Ddwyrain Cymru ymhellach. Yr hyn sy’n hynod yw bod cysylltiad traws
ffiniol pwysig iawn, ac mae’r Sir, gydag aelodaeth Cynghrair Mersi ar Ddyfrdwy
a’i ymglymiad ym Margen Twf y rhanbarth, yn dangos cryn ddoethineb. Mae gennym
y lleoliad gweithgynhyrchu mwyaf effeithiol ym Mhrydain a’r unig economi traws
ffiniol ym Mhrydain - mae ein galluogrwydd gweithgynhyrchu yn rhyfeddol.”
Dyweddodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr Systemau Diogelwch AGS:
“Gwobrau Busnes Fflint yw uchafbwynt y calendr fusnes. Mae’r dathliad yn
rhoi’r cyfle i fusnesau neu fentrau cymdeithasol o bob maint hyrwyddo eu cwmni,
ennill cydnabyddiaeth, statws a phroffil uwch, anogaf unrhyw fusnes yn Sir Y
Fflint i ymgeisio ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn.”
Mae cyfanswm o naw gwobr yng Ngwobrau Busnes Sir Y Fflint y gallwch chi
ymgeisio amdanynt ac un wobr arbennig - Gwobr Etifeddiaeth Yr Arglwydd Barry, a
wobrwyir mewn cydnabyddiaeth o wasanaeth gydol oes rhagorol i fusnes ac
economi. Dyma restr o’r categorïau a noddwyr:
Prif Noddwr
Systemau Diogelwch AGS
Gwobr Prentisiaeth
Cambria ar gyfer Busnes
Gwobr Person Busnes y Flwyddyn
Westbridge Furniture Designs
Gwobr Busnes y Flwyddyn â thros 10 o weithwyr
KK Fine Foods
Gwobr Busnes Menter Gymdeithasol Orau
(categori gwobr newydd)
Evans Maintenance Service
Gwobr Busnes y Flwyddyn â hyd at 10 o weithwyr
Edge Transport
Gwobr Busnes Gorau i Weithio ynddo
P & A Group of Companies
Gwobr Entrepreneur
Pochin
Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol
Wates Residential
Gwobr Technoleg, Arloesi a Busnes
Kingspan Insulation Panels
Gwobr Etifeddiaeth Yr Arglwydd Barry
Cyngor Sir Y Fflint
Mae manylion llawn y categorïau a’r meini prawf ar gyfer ymgeisio ar wefan Sir
Y Fflint mewn Busnes neu drwy
gysylltu â Kate Catherall 01352 703221, kate.p.catherall@flintshire.gov.uk
Dylai holl ffurflenni ymgeisio ac adnoddau cefnogi eu derbyn erbyn y dyddiad
cau 1 Medi 2018.