Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i Arfordir Sir y Fflint
Published: 23/05/2018
Mae sefydliadau lleol a myfyrwyr o Sir y Fflint wedi bod yn cydweithio yn
Nhalacre i amddiffyn a datblygu bioamrywiaeth ac amgylchedd arfordirol yr ardal
– i gyd â’r nod o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i Arfordir Sir y Fflint.
Gwerthfawrogir y datblygiadau cyffrous, o ganlyniad i gydweithio ardderchog
rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, a myfyrwyr lleol o Goleg Cambria.
Mae’r ddau grwp wedi cydweithio’n agos yn y gorffennol, gan ddefnyddio hen Goed
Nadolig i gryfhau’r system twyni yn Nhalacre, ond ddechrau Mai, fe ddaethant at
ei gilydd eto i roi cynnig ar ddyluniadau amddiffyn llyffantod cefnfelyn rhag
ysglyfaethwyr.
Mae myfyrwyr Coleg Cambria wedi defnyddio’r ardal yn rheolaidd i gyfranogi mewn
prosiectau peirianneg, ond eleni, fe gyflwynwyd her wahanol i’r myfyrwyr. Dros
gyfres o ymweliadau, fe weithiodd mwy na 30 o fyfyrwyr au darlithwyr ochr yn
ochr â Cheidwaid y Gwasanaeth Cefn Gwlad a’r perchnogion tir, Eni, i ddylunio
rhywbeth i amddiffyn y Llyffantod Cefnfelyn prin yn yr ardal, rhag
ysglyfaethwyr.
System twyni tywod ‘Twyni Gronant a Chwningar Talacre’ sydd â’r unig boblogaeth
sefydledig o Lyffantod Cefnfelyn yng Nghymru. Dyma hefyd yr amffibiad mwyaf
prin yn y DU, ac mae llawer iawn o waith yn mynd tuag at amddiffyn a monitro’r
rhywogaeth bob blwyddyn. Pan sylweddolwyd yn ddiweddar bod rhai silod a
phenbyliaid yn cael eu hymosod arnynt gan ysglyfaethwyr ym mhyllau Talacre, fe
wnaeth y Gwasanaeth Cefn Gwlad gyflwynor dasg ou hamddiffyn i fyfyrwyr Coleg
Cambria, ac maent wedi cyflawni canlyniadau gwych!
Aeth ceidwaid i’r coleg i siarad â dau grwp o fyfyrwyr peirianneg a gosod y
dasg iddynt o ddylunio rhywbeth i amddiffyn y Llyffantod Cefnfelyn rhag yr
ysglyfaethwyr hyn. Wrth weithio mewn grwpiau, fe wnaeth y Ceidwaid ar
Myfyrwyr nodi tri dyluniad i roi cynnig arnynt. Mae’r dyluniadau hyn bellach
wedi’u gosod, a byddant yn cael eu monitro’n agos hyd ddiwedd y tymor.
Meddai Ceidwad Arfordir a Chefn Gwlad Sir y Fflint, Tim Johnson, am y
prosiect: “Mae myfyrwyr Coleg Cambria wedi bod yn dychwelyd yn rheolaidd i
Dalacre dros y blynyddoedd, ac mae Tîm Cefn Gwlad Sir y Fflint yn ddiolchgar am
y berthynas waith gref sydd wedi’i datblygu gydar Ceidwaid. Roedd y myfyrwyr
ar y prosiect hwn yn dda iawn ac fe wnaethant weithio’n galed. Roeddent yn
gallu addasu wrth i’r prosiect ddatblygu ac wrth i broblemau godi.
“Hoffwn ddiolch i Anke Kadelka-Williams o Goleg Cambriaam ei chefnogaeth,
flwyddyn ar ôl blwyddyn, a hefyd i’r myfyrwyr am eu hymdrechion. Maent yn grwp
sy’n gweithio’n galed, yn gwrtais ac yn ddeallus, ac fe ddylai’r coleg fod yn
falch ohonynt. Rydym yn gobeithio y gallwn barhau i weithio â’r coleg am
flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad:
“Mae’r prosiect hwn yn tynnu sylw at werth partneriaethau gweithredol. Rydym
yn ddiolchgar am gefnogaeth Coleg Cambria, sydd wedi cyfranogi ers nifer o
flynyddoedd, ac rydym yn edrych ymlaen at waith partneriaeth yn y dyfodol. Da
iawn a diolch i bawb a oedd ynghlwm wrth y gwaith i wneud gwahaniaeth
cadarnhaol i’r rhywogaeth hon.”