Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gorfodaeth Amgylcheddol yn Sir y Fflint
Published: 07/06/2018
Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd yng Nghyngor Sir y Fflint
wneud argymhelliad i’r Cabinet ar drefniant gweithgareddau gorfodi amgylcheddol
yn y sir yn y dyfodol ac adolygu perfformiad y contract gyda Kingdom Ltd ar hyn
o bryd.
Bydd yr adroddiad yn amlinellu’r dull o ymdrin â’r holl faterion sy’n ymwneud â
gorfodaeth amgylcheddol, gan gynnwys taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon,
gwastraff ar yr ochr a’r effaith mae’r gwaith yn ei gael ar lendid strydoedd a
dangosyddion perfformiad eraill.
Mae sbwriel yn broblem i bob tref a chymuned yn y wlad ac roedd gwaith i gasglu
sbwriel ar strydoedd a mannau agored yn Sir y Fflint cyn Ionawr 2016 yn costio
mwy na £300,000 y flwyddyn. Ar ben y gost a’r effaith weledol mae sbwriel yn ei
chael ar yr amgylchedd, mae mwy a mwy o dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn cael
effaith sylweddol ar yr economi leol ai fod yn cynyddu mathau eraill o
ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ym mis Ionawr 2016, mabwysiadodd Cyngor Sir y Fflint bolisi dim goddefgarwch ar
gyfer pob trosedd a oedd yn ymwneud â gollwng sbwriel. Cyflwynwyd Kingdom i
ymgymryd â gwaith gorfodi ar gyfer troseddau amgylcheddol ar 4 Gorffennaf 2016
i gefnogi’r tîm gorfodi mewnol. Cadwyd y tîm mewnol i fynd i’r afael â materion
eraill fel ymchwilio i dipio anghyfreithlon a gorfodaeth mewn perthynas â
gwastraff ar yr ochr, a ddechreuodd yn gynharach eleni. Mae’r contract gyda
Kingdom yn darparu swyddogion gorfodi i batrolio a rhoi Rhybuddion Cosb
Benodedig i aelodau o’r cyhoedd am ollwng sbwriel neu droseddau baw cwn.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Gan fod y trefniant dros dro gyda Kingdom yn dod i ben, mae angen i ni
benderfynu sut y byddwn yn parhau ac mae nifer o opsiynau iw hystyried, a phob
un or rheini gyda manteision ac anfanteision. Mae profiad o ganol y trefi wedi
dangos bod dull mwy cadarn o orfodi wedi bod o fudd i drefi o ran glendid.
Yr opsiynau yw:
1. Hysbysebu a dyrannu un contract ar gyfer yr holl weithgareddau gorfodi
amgylcheddol lefel isel - gan gynnwys parcio ceir. Dyma’r opsiwn a argymhellwyd
gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffur Amgylchedd ym mis Medi 2017. Roedd y cynnig
yn cynnwys proses apelio annibynnol a fyddai’n cael ei chynnal gan Uwch Swyddog
o fewn y Cyngor.
2. Cael gwared â’r trefniant cyfredol a chynnal yr holl weithgareddau gorfodi
drwy’r gwasanaeth mewnol gyda staff presennol.
3. Ehangu’r ddarpariaeth fewnol drwy recriwtio neu weithio’n rhanbarthol i
ddarparu’r un lefel o waith âr contractwr ar hyn o bryd.