Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansiad Swyddogol y Ganolfan Cymorth Cynnar
Published: 11/06/2018
Roedd Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn o groesawu Sally Holland, Comisiynydd
Plant Cymru, i lansio Canolfan Cymorth Cynnar Sir y Fflint yn ddiweddar.
Cafodd y cysyniad arloesol ei gomisiynu gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y
Fflint ac mae wedi’i greu i ddarparu cymorth mwy amserol a chydlynol i
deuluoedd ag anghenion mwy dwys. Roedd y lansiad yn dathlu cyflawniadau’r
ganolfan hyd yma gan rannu straeon cadarnhaol am y ffyrdd rydym wedi cydweithio
i gefnogi teuluoedd gyda dau neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Yn y lansiad, dywedodd Sally Holland:
“Mae plant a’u teuluoedd wedi gorfod gweddu i’r gwasanaethau sydd ar gael am
ormod o amser, yn hytrach na bod gwasanaethau’n ymateb iw hanghenion nhw.
“Mae Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid wedi dechrau ymateb yn fwy hyblyg i
anghenion teuluoedd, a chydweithio mwy i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth
maen nhw ei angen ar yr adegau iawn – nid pan mae eu problemau’n mynd yn
‘ddigon drwg’ i fod yn gymwys i gael help.
“Rydw i’n gobeithio rwan y bydd plant a theuluoedd yn cael y cymorth cynnar
cywir maen nhw ei angen.”
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
“Mae hwn wir yn ddull sydd ar flaen y gad o ran cydweithio gyda phartneriaid
amlasiantaeth i gefnogi rhai on teuluoedd mwyaf bregus.
“Y prif nod yw bod sefydliadaun cydweithio i sicrhau bod plant, pobl ifanc a
theuluoedd yn gallu cael gwybodaeth a chyngor am gymorth cynnar perthnasol.
Bydd y Ganolfan Cymorth Cynnar yn cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau ymdopi a
mynd i’r afael â phroblemau cyn iddynt waethygu.”
Mae’r Ganolfan Cymorth Cynnar yn canolbwyntio’n helaeth ar sefydliadau’n
cydweithio i gyrraedd plant a theuluoedd a fyddai’n elwa o gymorth cynnar.