Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Terfynau cyflymder 20mya ym Mwcle

Published: 15/11/2022

Ddydd Mawrth 8 Tachwedd 2022 bu i Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Gludiant Ranbarthol, y Cynghorydd Dave Hughes a Chynghorwyr Sir etholedig, sy’n cynrychioli pob un o’r wardiau sy’n cael eu heffeithio gan weithrediad diweddar y terfynau cyflymder 20mya, gael cyfarfod gyda Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters. 

Yn unol â’r pryderon sydd wedi cael eu codi’n lleol ym Mwcle, mae trafodaethau parhaus wedi bod rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru ers rhai misoedd.  Yn gynharach eleni, ar gais y Cyngor, gwrandawodd Llywodraeth Cymru ar adborth trigolion lleol a chytunodd i gynnal adolygiad o’r cynllun a’r meini prawf eithriadau ar gyfer ffyrdd prifwythiennol.  

Ers cyflwyno terfyn cyflymder 20mya ym Mwcle ar 28 Chwefror 2022, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n ddiwyd er budd ei drigolion ac mae’r cyfarfod diweddaraf hwn gyda’r Dirprwy Weinidog yn arwydd o gam pellach ymlaen. 

Wrth ganiatáu i’r Dirprwy Weinidog esbonio’n fwy manwl y rhesymeg a’r buddion y tu ôl i gyflwyno terfynau cyflymder cenedlaethol 20mya, rhoddodd y cyfarfod gyfle hefyd i gynghorwyr etholedig lleol roi adborth uniongyrchol i Lywodraeth Cymru am bryderon eu trigolion. 

Yn gynharach eleni gwnaethpwyd ymrwymiad y byddai’r Cyngor a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ymgysylltu â thrigolion sy’n byw yn y parthau terfynau 20mya a rhoi cyfle iddyn nhw rannu eu safbwyntiau.  

Yn y cyfarfod cytunwyd yn unfrydol ar nifer o gamau nesaf:  

  • Holiadur i gael adborth ar-lein gan bob aelwyd o fewn yr ardaloedd terfynau cyflymder 20mya cyn y Nadolig.
  • Bydd ymgyrch ymgysylltu ac addysg gan yr heddlu yn cychwyn cyn y Nadolig.
  • Bydd sesiynau gwybodaeth galw heibio wyneb yn wyneb i’r gymuned leol yn cael eu cynnal yn y Flwyddyn Newydd. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dave Hughes:

“Mae’n bwysig iawn ein bod yn cymryd camau i ddeall safbwyntiau a barn pob aelwyd sydd o fewn y parthau terfynau 20mya newydd.  Bydd yr adborth a dderbyniwn yn help i fod yn sail i’r sesiynau gwybodaeth y byddwn yn eu cynnal yn y Flwyddyn Newydd.  Byddwn hefyd yn rhoi’r canlyniadau i Lywodraeth Cymru i helpu i fod yn sail i’w hadolygiad o’r meini prawf eithriadau cyn cyflwyno’r cynlluniau’n llawn ym mis Medi nesaf.

“Bydd llythyrau yn cael eu hanfon dros yr wythnosau nesaf yn gwahodd aelwydydd cymwys i gymryd rhan a byddwn yn annog pob aelwyd i dderbyn y cynnig a rhoi eu barn i ni.”