Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofio Pobl Drawsryweddol

Published: 18/11/2022

Transgender Remembrance-2.jpgDdydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul 18, 19 a 20 Tachwedd, bydd Cyngor Sir y Fflint yn codi’r faner Drawsryweddol y tu allan i Neuadd Sir yr Wyddgrug i gefnogi diwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol. 

Sefydlwyd Diwrnod Cofio Pobl Drawsrywiol, a gaiff ei gynnal yn flynyddol ar 20 Tachwedd, ym 1999, pan ddaeth i’r amlwg fod nifer fawr o bobl drawsryweddol wedi cael eu llofruddio - ffaith syfrdanol.   Ar 20 Tachwedd, byddwn yn cofio am yr holl bobl draws sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i drais trawsffobig, a bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ystadegyn erchyll hwn. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol:

“Rydym yn cymryd rhan yn y diwrnod hwn i ddangos ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb a chael gwared â gwahaniaethu a throseddau casineb, gan wneud Sir y Fflint yn lle diogel i bawb.”

I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol, ewch i https://www.glaad.org/tdor.


Llun: Fiona Mocko, Cllr Christine Jones, Cllr Billy Mullin, Cllr Mared Eastwood and Steve Goodrum.