Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog yn agor Marleyfield House yn swyddogol

Published: 25/11/2022

Mae Marleyfield House yn Sir y Fflint, sy’n adeilad £8.4 miliwn wedi’i ymestyn a’i ailddatblygu, wedi’i agor yn swyddogol gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AS.

Mae’r cartref gofal bellach ddwywaith yn fwy ac yn gallu cefnogi 64 o bobl hyn. Mae’r estyniad newydd wedi’i godi’n benodol i ddiwallu anghenion pobl hyn sy’n chwilio am gartref newydd gyda gofal preswyl yn ogystal â phreswylwyr sydd wedi bod yn yr ysbyty ac eisiau manteisio ar ystod o therapïau i’w helpu nhw ddychwelyd gartref ar ôl adennill annibyniaeth. 

Mae’r 32 ystafell newydd yn cynnwys gofod awyr agored preifat drwy naill ai falconi ar y llawr cyntaf neu batio ar y llawr gwaelod.   Mae’r estyniad hefyd yn cynnwys ardal gymunedol y tu mewn a’r tu allan, gofod swyddfa a storfeydd. Y tu allan i’r adeilad mae’r maes parcio wedi’i wneud yn fwy ac mae gwaith tirlunio sylweddol wedi’i wneud i annog preswylwyr i ddefnyddio’r gofod tu allan i wella eu lles.  Mae’r cyfleusterau cegin hefyd wedi’u hailfodelu a’u hailwampio i ddiwallu anghenion nifer yn fwy o giniawyr. 

Dyma enghraifft wych o ymagwedd rhagweithiol yr awdurdod lleol i fynd i’r afael â’r pwysau sylweddol presennol a'r breuder yn y sector gofal ar draws y sir.  

Drwy weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, mae 16 o ystafelloedd wedi’u darparu ar gyfer pobl hyn sydd angen cymorth ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn amserol a phriodol. Bydd trigolion Sir y Fflint yn cael budd o therapïau adsefydlu dwys gan dîm ar y safle i’w helpu nhw i fod mor annibynnol â phosibl ac i ddarparu asesiad realistig ac amser real o'r anghenion hirdymor, gan geisio helpu pobl i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain o fewn 6 wythnos.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Roedd yn wych agor Marleyfield House a fydd o fudd gwirioneddol i’r preswylwyr a’r bobl sy’n byw gyda dementia. Mae Gofal Cymdeithasol o dan bwysau sylweddol ac mae’r ailddatblygiad hwn yn dangos yr ymrwymiad i wella gwasanaethau, helpu pobl i adael yr ysbyty a helpu pobl ddiamddiffyn i fyw’n annibynnol tra’n parhau i gael cymorth.”

Meddai Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Christine Jones:

“Roedd yn bleser croesawu’r Gweinidog a gallu dangos ein cyfleuster gwych ym Mwcle iddi.  Roedd hefyd yn wych cwrdd â nifer o’r preswylwyr sydd wedi dod i fyw yn Marleyfield.  Mae hyn yn ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi arian mewn gwasanaethau hanfodol.   Rwy’n falch bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein trigolion mwyaf bregus.”  

“Mae prosiect cyffrous arall ar fin dechrau yn y Fflint - cyfleuster gofal preswyl newydd a fydd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer cefnogaeth therapiwtig, a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia.”

FCC Marleyfield-42.jpg

Yn y llun o'r chwith i'r dde: Janet Bellis, Uwch Reolwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Margaret Lovell, cyn-reolwr cartref, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan MS, Sandra Stacey - y rheolwr cartref presennol a'r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Lles