Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sefydliadau gogledd Cymru yn dod ynghyd i gynnig croeso cynnes yn ystod yr argyfwng costau byw

Published: 21/11/2022

Logo Croeso Cynnes.jpg

Mae partneriaid ledled gogledd Cymru yn dod ynghyd i gynnig mannau cynnes a diogel i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda chostau ynni cynyddol dros y Gaeaf. 

Mae'r Cynllun Croeso Cynnes yn cael ei arwain gan Menter Môn, ar y cyd â Chyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Mantell Gwynedd, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Medrwn Môn, yn o gystal â nifer o sefydliadau eraill sydd yn rhan o Fudiad 2025.  Mae Mudiad 2025 yn grwp o dros 600 o bobl a sefydliadau ledled gogledd Cymru sy'n cydweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar draws y rhanbarth.

Mae partneriaid Croeso Cynnes wedi ymrwymo i hyrwyddo ac agor mannau cynnes yn ein cymunedau lle gall bobl ddod i dreulio amser a mwynhau diod boeth, a bydd llawer o'r lleoedd hyn hefyd yn cynnig bwyd poeth. Mae'r cynllun hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r cymorth ymarferol sydd ar gael drwy sefydliadau fel Cymru Gynnes. Cwmni Budd Cymunedol sy'n gweithio i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ledled Cymru, gan sicrhau bod unrhyw un sydd angen cymorth yn cael ei gyfeirio at bobl a all helpu.  

Dywedodd Clare Budden, Cadeirydd Mudiad 2025 a Phrif Weithredwr Cymdeithas Tai ClwydAlyn:

"Mae'r argyfwng costau byw yn her enfawr i'n sefydliadau a'r bobl rydym yn eu gwasanaethau, gyda'r disgwyl i anghydraddoldebau iechyd ehangu ymhellach wrth i gymunedau ddechrau teimlo effaith gwirioneddol costau cynyddol ynni, yn enwedig yng Nghymru, sydd â'r biliau trydan uchaf yn y DU ar gyfartaledd. 

"Mae'n wych gweld cyn nifer o bartneriaid yn dod ynghyd i agor eu hadeiladau, o lyfrgelloedd i ganolfannau cymunedol, er mwyn cynnig mannau cynnes a diogel i bobl leol ymweld â nhw os ydynt yn ei chael hi'n anodd cynhesu eu cartrefi. Mae pawb sydd ynghlwm â 2025 wedi ymrwymo ers peth amser i gydweithio er mwyn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac mae Croeso Cynnes yn enghraifft arall o'r gwahaniaeth gallwn ni ei wneud wrth ddod ynghyd."

Caiff lleoliadau Croeso Cynnes eu hyrwyddo gan Arloesi Gwynedd Wledig, fel rhan o fenter gymdeithasol Menter Môn. Mae partneriaid sydd yn agor a chefnogi lleoliadau Croeso Cynnes ar draws Gogledd Cymru yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Mantell Gwynedd, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Medrwn Môn, ynghyd a phartneriaid y Mudiad 2025, Cyngor Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â chymdeithasau tai Adra, Tai Gogledd Cymru, Grwp Cynefin, Cartrefi Conwy, Tai Sir Ddinbych a ClwydAlyn.

I ddarganfod ble mae lleoedd Croeso Cynnes ar gael yn Sir y Fflint, cliciwch yma. Ardaloedd eraill, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Harvey, Prifysgol Glyndwr Wrecsam sarah.harvey@glyndwr.ac.uk neu ffoniwch 07894 687 077 neu Cyngor Gwynedd croesocynnes@gwynedd/llyw.cymru.