Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth gwastraff gardd

Published: 23/11/2022

Mae’r cyfnod tanysgrifio ar gyfer tymor casglu gwastraff gerddi 2022 bellach yn cau ar 25 Tachwedd.

Gwiriwch y dudalen we "Calendrau gwastraff ac ailgylchu" i ganfod pryd fydd eich casgliad olaf.

Peidiwch â thynnu’r sticer a gawsoch oddi ar eich bin brown pan ddaw eich casgliadau i ben. Defnyddir y rhain ar gyfer gwasanaeth casglu 2023 os ydych yn dewis tanysgrifio eto.

Bydd y cyfnod tanysgrifio ar gyfer tymor 2023 yn agor yn y Flwyddyn Newydd.