Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwirfoddolwyr Vimto y Fflint

Published: 29/11/2022

Fe ddaeth Ceidwaid Arfordirol Sir y Fflint, gwirfoddolwyr corfforaethol Nichols plc a Chyngor Tref y Fflint ynghyd yr wythnos ddiwethaf i dacluso’r coetiroedd, llwybrau troed a Llwybr Arfordir Cymru ger Castell y Fflint. 0cf985ce-6561-4e50-94ef-d6d84d344ce5.JPG

Cafodd coed marw a choed peryglus eu clirio a phlannwyd coed cyll, yw a choed castan ifanc yn eu lle ac agorwyd y golygfeydd ar draws yr aber wrth i brysgwydd cwyros gael eu tocio i sicrhau y gall pawb fwynhau’r golygfeydd ysblennydd o amgylch Castell y Fflint.

Ychwanegwyd tair derwen goch i amrywiaeth y coetir i goffáu’r diwrnod a oedd yn llwyddiant mawr er gwaetha’r rhybuddion melyn o ran y tywydd. Wedi eu noddi gan Gyngor Tref y Fflint, darparodd y Ceidwaid Arfordirol offer, lloches a choed a daeth Vimto â 17 o wirfoddolwyr yma gan roi dros 85 awr o waith a oedd yn gyfystyr â bron i 12 diwrnod o amser Ceidwad. 

Cafodd pawb ginio o bysgod a sglodion, wedi ei ddarparu gan y siop sglodion leol.  Hefyd roedd yna gacen pen-blwydd a chafodd ei olchi i lawr gyda Vimto diderfyn, a oedd yn rhoi digon o egni i bawb yn barod am brynhawn prysur yn creu pentyrrau cynefinoedd bywyd gwyllt a gwrychoedd mawr ar gyfer darparu lloches i ffwng, mamaliaid ac infertebratau yn y gaeaf.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden Cyngor Sir y Fflint:

“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o ddiwrnod y gwirfoddolwyr sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd yn y Fflint. Roeddwn yn falch o glywed fod pobl wedi cael amser da, er gwaetha’r tywydd.  Darparwyd lloches gan goed a choetiroedd blaendraeth y Fflint a’r cysgod a gynigwyd gan waliau Castell y Fflint, a chafwyd digon o ddiodydd poeth, ac fe sicrhaodd y criw gwych o dîm marchnata Vimto fod y diwrnod yn un cynhyrchiol a llawn hwyl.”

Canmolodd y Cyfarwyddwr Marchnata, Emma Hunt, y Ceidwaid Arfordirol am y diwrnod a dywedodd:

“Yn Nichols rydym i gyd yn cael ein hannog i gymryd rhan yn ein menter Diwrnod i Wneud Gwahaniaeth, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau lleol. Mae gan y Fflint flaendraeth mor wych ac rydym yn falch o wneud ein rhan ar gyfer bywyd gwyllt, pobl a chymuned y Fflint a’r rhai hynny sy’n defnyddio Llwybr Arfordir Cymru.”6f866e45-cf56-4b48-85f6-672070dea25f.JPG

Dywedodd Cynghorydd Sir y Fflint a Maer y Fflint, Michelle Perfect:

“Anhygoel, canlyniad gwych a hynny mewn tywydd eithaf gwael.  Fe fydd y coetir a’r bywyd gwyllt yn amlwg yn elwa o’r holl waith. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwaid Arfordirol a thîm Vimto am ddod allan a dal ati hyd yn oed ar ôl y pysgod a’r sglodion a’r gacen!”

Dylai unrhyw grwpiau corfforaethol sydd eisiau diwrnod tîm gysylltu â’r Ceidwaid ar 07711438127 neu countryside@flintshire.gov.uk

 52f15e72-5db2-41f9-9327-5f1ad4654026.JPG