Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu

Published: 01/12/2022

Recycling bring sites.jpgYm mis Gorffennaf 2022, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor y cynnig i waredu safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu ar draws y Sir.

Safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu yw’r iglwau a’r cynwysyddion sydd wedi’u lleoli mewn meysydd parcio lleol a thafarndai er mwyn ailgylchu tecstilau a gwydr.  Mae’r safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu wedi bod yn weithredol ers blynyddoedd, ac ar un adeg, dyma oedd yr unig opsiwn ar gyfer ailgylchu i drigolion, yn ogystal â’r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Mae cyflwyno casgliadau ymyl palmant wythnosol wedi gwneud ailgylchu’n llawer mwy cyfleus i drigolion ac mae’r gwasanaeth ar gael i bob aelwyd yn Sir y Fflint.   Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl sy’n defnyddio’r safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu wedi gostwng, gan fod bellach modd ailgylchu ystod eang o ddeunydd gan ddefnyddio’r gwasanaeth casglu ymyl palmant neu yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor. 

Yn y cyfamser, mae’r contractwyr casglu gwydr wedi rhoi gwybod na fyddant yn gallu darparu gwasanaeth casglu gwydr mewn safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu yng Nghymru mwyach, a byddant yn gwaredu’r banciau a’r iglwau yn yr wythnos nesaf.   Mae hyn yn golygu y bydd banciau gwydr yn cael eu gwaredu yn yr wythnos sy’n dechrau ar 5 Rhagfyr, sy’n llawer cynt na’r disgwyl.  

Mae’n bwysig nodi na fydd hyn yn newid casgliadau gwydr ymyl palmant a bydd trigolion yn gallu parhau i fynd â’u gwydr i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, gan fod trefniadau gwahanol ar waith gyda chontractwyr eraill ar gyfer gwydr a gaiff ei gasglu fel hyn. Bydd banciau tecstilau'n parhau i fod yn weithredol am y tro.