Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ailwampio Theatr Clwyd
Published: 18/06/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo’r gwaith dylunio a datblygu
manwl ar gyfer ailwampio Theatr Clwyd a rhyddhau’r cyllid a ddyrannwyd yn y
rhaglen gyfalaf.
Mae’r Cabinet eisoes wedi ystyried yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Theatr
Clwyd. Mae’r cynllun a ffefrir yn cynnwys ailddatblygiad oddeutu £30miliwn
sy’n ailwampio’r theatr ac yn gwella’r profiad i gwsmeriaid ac aelodau o’r
gymuned leol.
Mae’r cyllid sydd ei angen oddeutu £22 miliwn gan Lywodraeth Cymru, £5miliwn
gan Gyngor Celfyddydau Cymru a £3miliwn yn lleol, gydag £1miliwn wedi’i nodi
gan y Cyngor.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dangos cefnogaeth gref i’r prosiect ac wedi
dyrannu cyllid ar gyfer gwaith dylunio a datblygu manwl (£1,012,179.00), ac mae
wedi clustnodi £5miliwn yn ei gyllideb cynllunio cyfalaf. Mae’r Cyngor wedi
dyrannu arian cyfatebol o fewn y cyllid rhaglen gyfalaf i ymgymryd â’r gwaith
dylunio a datblygu manwl, yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru am eu
cyfraniadau cyllid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei fod yn cefnogi’r cynllun ond mae hefyd yn
cydnabod bod angen gwneud mwy o waith cyn y gellir darparu cadarnhad terfynol
o’r arian cyfalaf ac mae wedi gofyn i’r Cyngor barhau â’r gwaith dylunio a
datblygu i ddarparu’r wybodaeth hon. Ni fyddai’r cynllun yn gallu mynd
ymlaen heb ymrwymiad o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint:
“Mae hwn yn fuddsoddiad hynod bwysig yn y prif gwmni cynhyrchu drama ac
enillydd gwobrau hwn yng Nghymru. Mae ei bump lleoliad perfformio, yn ogystal
â’r siop, bwyty ac orielau celf yn croesawu nifer fawr o ymwelwyr bob blwyddyn
– sydd o fudd i economi Sir y Fflint.
“Mae gwir angen y buddsoddiad hwn i ddatblygu a moderneiddio’r adeilad eiconig
a chyrchfan diwylliannol hwn a gwella masnachadwyedd y theatr a chynyddu
mynediad i’r gymuned leol.”
Mae’r costau a amcangyfrifir ar gyfer dylunio a datblygu manwl yn £1.2 miliwn
ac mae cyfraniad y Cyngor tuag at hyn, eisoes wedi’i ddyrannu yn amodol yn y
Rhaglen gyfalaf, yn £0.330miliwn. Theatr Clwyd yw’r theatr gynhyrchu fwyaf yng
Nghymru, mae’n chwarae rhan sylweddol yn genedlaethol yn datblygu Theatr
Gymreig, ac mae’n derbyn un o’r dyfarniadau refeniw blynyddol mwyaf gan Gyngor
Celfyddydau Cymru.