Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion cynradd Sir y Fflint yn agor eu drysau i ofalu am yr Arth Faethu
Published: 23/01/2023
Mae ysgolion cynradd ar hyd a lled Sir y Fflint wedi croesawu’r Arth Faethu i’w hystafelloedd dosbarth, ymgyrch newydd sydd wedi’i lansio gan Faethu Cymru Sir y Fflint i hyrwyddo maethu.
Nod ymgyrch yr Arth Faethu yw codi ymwybyddiaeth o faethu yn yr awdurdod lleol ac amlinellu’r angen brys i recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn Sir y Fflint.
Mae Maethu Cymru Sir y Fflint yn rhan o Faethu Cymru, rhwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol nid-er-elw yng Nghymru, sy’n cydweithio i greu dyfodol gwell i blant lleol drwy eu helpu i aros yn eu hardaloedd lleol, os mai dyna’r peth gorau ar eu cyfer.
Mae’r Arth Faethu yn rhan o’r tîm maethu ac yn ymuno ag ysgolion cynradd ar hyd a lled Sir y Fflint i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol gyda phlant yn y dosbarth. Bydd plant blynyddoedd 3 a 4 yn cael cyfle i fynd â’r Arth Faethu adref efo nhw am benwythnos i edrych ar ei hôl a gofalu amdani. Byddan nhw hefyd yn derbyn Llyfryn yr Arth Faethu sy’n cynnwys gweithgareddau llawn hwyl i’w gwneud yn y dosbarth ac i gofnodi eu hanturiaethau dros y penwythnos.
Bydd teuluoedd y plant hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr ymgyrch hon drwy rannu lluniau a straeon ar y cyfryngau cymdeithasol ynglyn â sut mae’r Arth Faethu wedi addasu i fywyd gyda’i theulu newydd, gan ddefnyddio’r hashnod #arthfaethu.
Meddai’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones:
“Mae’n braf gweithio gyda Maethu Cymru ac ysgolion cynradd lleol ar y fenter wych hon i annog mwy o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o fanteision maethu. Rydw i’n gobeithio y bydd y plant yn mwynhau gofalu am yr Arth Faethu, ac yn hoffi’r gweithgareddau diddorol.
“Yn dilyn cynllun prawf llwyddiannus mewn ysgol gynradd leol y llynedd, rydym ni’n falch iawn o lansio’r ymgyrch hon a fydd hefyd yn amlygu’r angen am recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn ein cymunedau. Drwy roi cyfrifoldeb ar blant i garu a gofalu am yr Arth Faeth am benwythnos, byddan nhw hefyd yn cael syniad o’r hyn sydd ar blant ein teuluoedd maeth ei angen.”
Ysgol y Waun oedd un o’n hysgolion cyntaf i agor eu drysau i’r Arth Faeth, ac meddai Louise Ankers y Pennaeth:
“Roedd yn anrhydedd gennym lansio’r fenter hon yn ein hysgol, gydag ymwelwyr o Faethu Cymru, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint a rhai o’n llywodraethwyr. Roedd y plant yn cymryd diddordeb mawr yn ystod y gwasanaeth ysgol gyfan, lle cawson nhw gyfle i rannu eu gwybodaeth am faethu, dysgu ffeithiau newydd a gofyn cwestiynau sy’n gwneud i rywun feddwl.
“Mae pawb wedi ymrwymo i ledaenu’r gair am faethu ac mae’r fenter hon yn sicr wedi dal dychymyg ein cymuned. Daeth yr Arth Faethu gartref gyda mi’r penwythnos cyntaf, a gwn fod nifer o blant eisiau mynd â’r arth gartref nesaf. Rydw i’n edrych ymlaen at ddilyn hynt a helynt yr Arth Faethu, a rhannu ei hanturiaethau gyda’r plant.”
I gael rhagor o wybodaeth neu os ydych chi’n ysgol sy’n dymuno gweithio gyda Maethu Cymru Sir y Fflint ar yr ymgyrch hon ewch i maethucymru.siryfflint.gov.uk/cy/foster-bear-campaign/the-foster-bear-campaign neu cysylltwch â Melissa Cross ar 01352 701965 neu Melissa.cross@flintshire.gov.uk.
I weld sut fedrwch chi faethu yn Sir y Fflint ewch i maethucymru.siryfflint.gov.uk.
Llun gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4, o’r chwith i’r dde: Craig Macleod, Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, y Cyng. Jones, Melissa Cross, Trevor Payne, Llywodraethwr ac aelod o Banel Maethu Sir y Fflint, y Pennaeth Louise Ankers a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Kim Brookes