Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansio Canolbwynt Tai Digidol newydd Sir y Fflint
Published: 26/01/2023
Mae Gwasanaethau Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd Sir y Fflint wedi lansio eu Canolbwynt Tai ac Atal Digartrefedd ar wefan y Cyngor sy’n cynnig ffordd syml i ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth ddefnyddiol mewn perthynas â thai.
Mae’n cynnwys ystod o wybodaeth mewn perthynas â gwasanaethau cymorth tai yn ogystal â chyngor i’r rheiny sy’n wynebu caledi tai, problemau yn eu cartref, digartrefedd neu berygl o ddigartrefedd. Mae’r gefnogaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i theilwra i ymateb i anghenion ac amgylchiadau arbennig yr unigolyn. Yn ogystal â darparu nifer o wasanaethau, mae’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill i helpu pobl i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau mewn perthynas â thai.
Mae cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol iawn ar gael ar beth i’w wneud os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd. Byddem yn annog unrhyw un yn y sefyllfa hon i gysylltu â’r Cyngor cyn gynted â phosibl. Mae’r Canolbwynt hwn yn un ffordd o gael cyngor a chefnogaeth a dysgu mwy am ein gwasanaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio Sir y Fflint:
“Credaf ei fod yn bwysig fod pobl yn derbyn cymorth a chyngor ac yn gallu cysylltu â’r Cyngor yn rhwydd os ydynt yn wynebu problemau mewn perthynas â thai. Mae’r Canolbwynt newydd yn dod â’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i drigolion ynghyd mewn un safle hygyrch.
“Mae hyn yn cynnwys problemau mewn perthynas â rhentu preifat neu gyllid, yn ogystal â materion yn ymwneud â chyflwr yr eiddo, neu hyd yn oed digartrefedd neu berygl o ddigartrefedd. Mae hefyd yn cynnwys dolen i wefan Dewis Cymru sy’n cynnig cefnogaeth ar gyfer bob agwedd o les gan dros 6,000 o wasanaethau lleol a chenedlaethol.”
Mae’r Gwasanaethau Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd yn cynnig ystod eang o gyngor a chymorth ac yn cefnogi pobl i oresgyn eu problemau tai. Lle na ellir mynd i’r afael â phroblemau mewn perthynas â thai, mae’n bosibl y bydd trigolion yn gymwys i ymuno â’r gofrestr tai cyffredin. Dyma sut mae’r Cyngor a chymdeithasau tai lleol yn dyrannu tai cymdeithasol.
Dim ond hyn a hyn o dai cymdeithasol sydd ar gael bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu bod ein gwasanaethau’n canolbwyntio ar helpu trigolion i aros yn eu cartref presennol drwy oresgyn y problemau a, lle bo modd, osgoi’r angen i symud. Pan fydd pobl angen symud, mae’r amseroedd aros yn gallu bod yn hir.
Yn ogystal â’r wybodaeth hon, gallwch ddod o hyd i gwestiynau ac atebion trylwyr i fynd i’r afael â’ch pryderon, cliciwch yma i ddysgu mwy!