Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adleoli capsiwl amser ysgol
Published: 11/07/2018
Cynhaliwyd seremoni yn ddiweddar yn Ysgol Gynradd Arbennig Pen Coch, y Fflint,
i nodi adleoli’r capsiwl amser a gladdwyd yn wreiddiol nôl yn 2003 yn hen Ysgol
Delyn, Yr Wyddgrug, 30 mlynedd ers i’r ysgol agor.
Dewiswyd y lleoliad yma gan fod Ysgol Pen Coch, a grëwyd trwy uno hen ysgolion
arbennig Ysgol Belmont, Bwcle, Ysgol Delyn yn Wyddgrug ac Ysgol y Bryn,
Shotton, wedi ymroi i ddarparu addysg mewn modd cyfeillgar, creadigol ac
arloesol i’w ddisgyblion.
Mae Alexandra Court bellach yn meddiannu hen safle Ysgol Delyn, datblygiad a
gwblhawyd yn ddiweddar o 16 ty cyngor newydd a adeiladwyd gan Wates Residential
yn y Gogledd yn rhan o raglen dai strategol y Cyngor.
Roedd disgyblion o gyngor yr ysgol yn bresennol yn y seremoni gan helpu i
gladdu’r capsiwl yn ardd synhwyraidd yr ysgol. Bydd lleoliad y capsiwl, a
gafodd ei farcio gyda phlac, yn parhau yn y lleoliad am flynyddoedd i ddod, a
phan fydd yn cael ei ailagor, fe fydd yn datgelu hanes hen Ysgol Delyn.
Dywedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a’r Amgylchedd sydd ag atgofion
hoffus o Ysgol Delyn yn nhref yr Wyddgrug;
“Dwi’n cofio’r capsiwl yn cael ei gladdu yn 2003 a pha mor gyffrous oedd y
plant bryd hynny, ac rwy’n falch ei fod wedi dod o hyd i gartref newydd mewn
lleoliad mor hyfryd yn Ysgol Pen Coch.
“Roeddwn i hefyd yn falch o weld bod nifer o staff oedd yn arfer gweithio yn
Ysgol Delyn ac sydd bellach yn gweithio yn Ysgol Pen Coch yn gallu ymuno â ni
yn y seremoni”.
Meddai’r Cynghorydd Paul Cunningham, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint:
“Ar ôl agor, fe sefydlodd Ysgol Pen Coch ei hun yn gyflym fel canolfan
ragoriaeth i ddysgu anghenion arbennig ac mae Sir y Fflint yn falch iawn ohono,
ac mae’n gwbl briodol bod y cyswllt rhwng yr ysgol newydd yma ac un o dair
ysgol wych a ddaeth o’i flaen yn cael eu cofio fel hyn.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential yn y Gogledd, Richard Shroll:
“Un o bleserau mwyaf ein gwaith ar raglen dai y cyngor ydi dod i adnabod
cymaint o’r gymuned leol, ac roedd ein tîm yn falch iawn o helpu i gadw’r
capsiwl amser ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol i’w darganfod”.
Nodyn i olygyddion
Yn y llun gyda disgyblion o gyngor yr ysgol mae (chwith i’r dde); aelodau staff
yr ysgol Sharon Williams a Dawn Hopkins, Consort y Cadeirydd Mrs. Joan
Cunningham, Cynghorydd Paul Cunningham, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint,
Cynghorydd Chris Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr George Tatum a Mick
Cunningham o Wates Residential y Gogledd