Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygu’r Datganiad Polisi Trwyddedu
Published: 17/05/2023
Gofynnir i Aelodau'r Cabinet gymeradwyo'r Datganiad Polisi Gamblo pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 23 Mai.
Mae’r Datganiad Polisi Gamblo drafft yn nodi rôl a chyfrifoldebau Cyngor Sir y Fflint o dan Ddeddf Gamblo 2005 a bydd yn cael ei rannu â’r Cabinet cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 20 Mehefin 2023.
Gan siarad am yr adolygiad o’r Datganiad Polisi Gamblo, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell:
“Mae ein Tîm Trwyddedu wedi gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws Gogledd Cymru i ddarparu polisi cyson a hygyrch ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.
Mae'r polisi ar ei newydd wedd yn mynd i'r afael â materion pwysig sy'n ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn, gan sicrhau bod gamblo'n cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored a'i fod yn amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn rhag niwed neu gamfanteisio.
Rwy’n croesawu’r polisi drafft ac yn diolch i’r holl randdeiliaid am eu sylwadau sydd wedi’u hystyried wrth adolygu’r polisi.”
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor Sir ym mis Mehefin, bydd y Datganiad Polisi Gamblo diwygiedig yn dod i rym ar 21 Mehefin 2023 am gyfnod o dair blynedd.