Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Pen-blwydd Ethel 100 oed!
Published: 03/07/2018
Mae Is Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i
ddathlu pen-blwydd arbennig.
Aeth y Cynghorydd Marion Bateman a’i Chymar, y Cynghorydd Haydn Bateman i
gyfarfod â Mrs Ethel Hemmington ar 30 Mehefin yng Nghartref Gofal Preswyl
Marleyfield, Bwcle.
Ganwyd Ethel yng Nglannau Dyfrdwy. Roedd ganddi bedwar brawd ac roeddent yn
deulu agos. Gadawodd Ethel yr ysgol ac aeth i weithio i ‘Hanson Dairy’, yn
Lerpwl. Gweithiodd yno am nifer o flynyddoedd nes iddo gau. Roedd hi’n
mwynhau gweithio yno, ac roeddent yn bobl dda.
Yna aeth i weithio yn Aerospace’ ym Mrychdyn, lle y cyfarfu ei gwr Harry.
Priodasant ym 1943 yn Eglwys y Santes Ethelwold yn Shotton ac ymgartrefu ym
Mharc Aston yn Ewloe. Roeddent yn mwynhau mynd ar wyliau ond ni aethant erioed
dramor gydai gilydd, er i Ethel deithio i Awstralia ar ei phen ei hun
unwaith. Roeddent yn mwynhau mynd am ddiod i Dafarn y Boot yn Llaneurgain.