Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygu rhwydwaith bysiau yn Sir y Fflint
Published: 10/07/2018
Dros y tri mis diwethaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn ymgynghori ar
ddyfodol darpariaeth gwasanaethau bws â chymhorthdal sydd yn cefnogi ac yn
ategur rhwydwaith masnachol.
Pwrpas yr adolygiad oedd edrych sut i flaenoriaethu cyllid cyhoeddus orau lle
mae’r angen mwyaf a sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau bws lleol yn
gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn deg ar draws y Sir. Fe ystyriodd yr adolygiad
ardaloedd or Sir sydd heb gludiant cyhoeddus ar hyn o bryd a sut i gefnogi
gwasanaethau masnachol orau er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd.
Gofynnodd Sir y Fflint am farn aelodau o’r cyhoedd a budd-ddeiliaid allweddol
am y datrysiad cludiant mwyaf priodol ar gyfer eu hardal leol trwy adnabod
patrymau teithio presennol, lle a phryd mae angen cludiant, pwrpas y daith a
pha rai o’r pedwar dewis arfaethedig, fyddai’n darparu datrysiad cludiant
cynaliadwy at y dyfodol. I gynorthwyo gyda hyn, rhannwyd y Sir mewn i bedwar
ardal ddaearyddol er mwyn blaenoriaethu a chanolbwyntio’r angen cludiant ar
gyfer cymunedau unigol. Cyflwynwyd pedwar dewis cludiant i’w hystyried yn yr
ardaloedd hyn.
Mae adborth o’r ymgynghoriad bellach wedi cael ei gasglu a’i asesu, a’r dewis a
ffefrir ydi cefnogi llwybrau bws ar y rhwydwaith bysiau craidd a chyflwyno
Trefniadau Teithio Lleol mewn ardaloedd oddi ar y rhwydwaith craidd. Bydd y
dewis hwn yn darparu cysondeb a hyblygrwydd o fewn y rhwydwaith a gefnogir gan
alluogi i ardaloedd sydd heb gludiant cyhoeddus ar hyn o bryd i gael gwasanaeth
tra’n parhau i ddarparu lefel o wasanaeth i’r rhai sydd â chludiant cyhoeddus.
Pwrpas y trefniadau teithio lleol ydi cysylltu cymunedau i brif ganolbwyntiau,
megis canol trefi a’r rhwydwaith bysiau craidd ar gyfer siwrneiau ymlaen, tran
cynyddu mynediad teithwyr at wasanaethau masnachol gan sicrhau eu
cynaliadwyedd.
Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a
Chraffu’r Amgylchedd Sir y Fflint ar 12 Gorffennaf iw ystyried.
Yn ogystal â chanlyniad yr adolygiad rhwydwaith bysiau, fe gynhelir trafodaeth
ar nifer y trefniadau cludiant ysgol sefydledig nad ydynt yn cydymffurfio â
pholisi presennol Cludiant o’r cartref i’r ysgol Cyngor Sir y Fflint, ynghyd ag
adolygiad o gostau tocynnau bws rhatach ar gyfer cludiant ysgol.