Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg a Chynllun Cydraddoldeb Sengl
Published: 11/07/2018
Cyflwynir Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Adroddiad
Blynyddol yr Iaith Gymraeg i Gabinet Cyngor Sir y Fflint yn y cyfarfod ddydd
Mawrth 17 Gorffennaf.
Bydd aelodau’r Cabinet yn derbyn adroddiadau diwedd y flwyddyn ar gynnydd a
gofynnir iddynt nodi’r meysydd ar gyfer gwella.
Mae meysydd o gyflawniad rhagorol yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, yn
cynnwys cyhoeddir Archwiliad Cyflog Cyfartal, cynyddu niferoedd o gymunedau a
busnesau sy’n gyfeillgar i ddementia a chaffis cof, addasiadau i ysgolion i
alluogi disgyblion anabl i gael mynediad llawn i gyfleusterau a hyfforddiant
Cynhwysiant Anabledd ar gyfer gweithwyr canolfan hamdden.
Mae’r Cyngor hefyd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ffyrdd y mae wedi
bodloni Safonau Iaith Gymraeg. Mae nifer o gyflawniadau ar draws sectorau
gwahanol y Cyngor yn cynnwys:
? Gwasanaethau Cymdeithasol: yn gweithredu “Fframwaith Mwy Na Geiriau” sy’n eu
rhoi mewn safle da i gydymffurfio â Safonau a darparu gwasanaethau dwyieithog.
? Theatr Clwyd: yn weithredol wrth godi proffil yr iaith Gymraeg trwy holl
weithgareddau.
? Cyflawnodd holl ysgolion cyfrwng Cymraeg wobr Arian y Siarter Iaith am eu
defnydd cynyddol o Gymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol a nawr yn gweithio tuag
at y wobr Aur.
? Mae’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei ddiweddaru ac yn
strategaeth bwysig er mwyn cynyddur nifer o ddisgyblion syn dysgu trwy
gyfrwng y Gymraeg a, dros amser, y posibilrwydd o gronfa o weithwyr syn
siarad Cymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac
Asedau Cyngor Sir y Fflint:
“Nod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw sicrhaur ddarpariaeth o ddeilliannau
cadarnhaol ar gyfer pobl gyda nodweddion a ddiogelir megis oed, anabledd, hil,
rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Mae Sir y Fflint wedi gwneud camau mawr ymlaen
yn y maes hwn a byddwn yn parhau i wneud hynny.
“Mae’r cyflawniadau mae Sir y Fflint wedi eu cyflawni ar draws y bwrdd er mwyn
croesawu’r Safonau Iaith Gymraeg wedi bod yn gadarnhaol. Rydym yn ymrwymedig i
godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a byddwn yn parhau i annog a chefnogi holl
weithwyr i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn yr amgylchedd waith bob dydd. Mae
ein Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg a ddrafftiwyd yn ddiweddar, hefyd yn
amlygu’r pwysigrwydd o weithio gyda’n cymunedau er mwyn uchafu ar gyfleoedd i
fodloni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.”
Er bod meysydd cadarnhaol o ran cynnydd, mae rhai materion yn parhau, fel
meysydd ar gyfer gwella, ac mae Sir y Fflint wedi nodi’r rhain a chynllunio er
mwyn diogelu gwelliant. Mae’r rhain yn cynnwys gwella casgliad data am broffil
ein cwsmeriaid a hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi mewnol.
Rydym yn parhau i wella ein cynnig iaith Gymraeg fel bod mwy o weithwyr yn
cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Gymraeg. Bydd darparu cefnogaeth i
weithwyr yn helpu i gynyddur nifer o siaradwyr Cymraeg dros amser. Bydd hyn
yn cefnogi’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau dwyieithog a bodloni anghenion
cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.