Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi gwelliannau i Bafiliwn Jade Jones
Published: 17/07/2018
Fel rhan o’i weledigaeth i wella iechyd meddwl a lles corfforol, mae Aura Leisure and Libraries Limited, mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi y bydd gwaith adeiladu ar Bafiliwn Jade Jones, y Fflint yn dechrau fis Gorffennaf 2018, i ailwampio’r pentref newid yn y pwll nofio ac i ailddatblygu a rhoi estyniad i gyfleusterau ffitrwydd y llawr cyntaf.
Bydd y ganolfan hamdden yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith adeiladu a disgwylir y bydd y cyfleuster ar ei newydd wedd yn agor fis Hydref 2018.
Mae Aura yn fudiad dielw, elusennol, a fydd yn gyfrifol am reoli’r rhan fwyaf o ganolfannau hamdden a llyfrgelloedd a oedd yn cael eu rheoli’n uniongyrchol gan Gyngor Sir y Fflint yn y gorffennol, o 1 Medi ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
"Mae’n wych clywed y cyhoeddiad bod gwaith yn dechrau cyn bo hir ar ail fuddsoddiad cyfalaf mawr i wella cyfleusterau Sir y Fflint. Rydym yn cydweithio gyda Aura, syn golygu, yn hytrach na gorfod ystyried dyfodol rhai o’n canolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd, rydym yn diogelu swyddi ac yn buddsoddi yn ein canolfannau hamdden ar y cyd, i’w gwneud yn well ar gyfer ein preswylwyr."
Dywedodd Christine Edwards, Cadeirydd Aura Leisure and Libraries:
"Mae hwn yn garreg filltir aruthrol ar gyfer Tîm Aura. Mae’r Bwrdd wedi bod yn gweithio’n galed iawn gyda gweithwyr i sicrhau bod gwelliant i wasanaethau a bod cwsmeriaid yn gweld ei fudd. Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth mawr yn y tymor hir i breswylwyr Sir y Fflint."
Dywedodd Rheolwr Pafiliwn Jade Jones, y Fflint, Neil Rimell:
"Mae’r staff i gyd wedi cyffroi am newyddion y datblygiad ac yn edrych ymlaen yn arw i ddarparu’r cyfleusterau ar eu newydd wedd ir gymuned leol. Rydym o hyd yn datblygu ein rhaglenni an gwasanaethau ac rydym yn sicr y bydd y datblygiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r cyfleusterau gan wella ein darpariaeth fel cyfanrwydd."