Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Erlyniad llwyddiannus o fasnachwr twyllodrus
Published: 12/07/2018
Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i erlyn masnachwr
twyllodrus yn ddiweddar.
Plediodd Ashley Colin Turner o 83 Chester Road, Huntington, Caer, yn euog i 7
cyhuddiad o gyflenwi a meddu ar nwyddau ffug o dan y Ddeddf Nodau Masnach 1994.
Yn gynharach y llynedd, fe wnaeth cynrychiolwyr o Rubies Masquerade - cyflenwyr
gwisgoedd uwch-arwyr, gysylltu â Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y
Fflint, i ddweud eu bod wedi canfod cyflenwr gwisgoedd uwch-arwyr ffug ar
Ebay, Prynwyd ganddynt fel prawf, a chadarnhawyd fod yr eitem yn ffug gan
gynrychiolydd o Warner Brothers.
Gwnaed gwiriadau, a’r cyflenwr oedd Cestrian Sports yn masnachu o Rowleys Drive
yn Shotton. Ym mis Medi’r llynedd, fe gynhaliwyd chwiliad yng nghyfeiriad
cartref Mr Turner a’r cyfeiriad yn Shotton. Atafaelwyd dau gant a hanner o
eitemau, lle’r oedd dau gant a hanner ohonynt yn ffug, gyda gwerth stryd o
£7,236.22.
Derbyniodd y llys bod Mr Turner yn unigolyn o gymeriad da yn flaenorol, a oedd
wedi sefydlu busnes llwyddiannus ac wedi methu â deall y pwysigrwydd o nodau
masnach cofrestredig. Cafodd Mr Turner ddirwy o £1,125 ac fe’i gorchmynnwyd i
dalu costau ymchwiliad o £2,211 ac iawndal o £7,236.22 i Rubies, cafodd hefyd
orchymyn i dalu tâl ychwanegol o £200, gan wneud cyfanswm o £10,772.22.
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Chris Bithell:
“Mae hwn yn ganlyniad da iawn ar ôl ymchwiliad trylwyr gan Wasanaeth Safonau
Masnach Sir y Fflint, ac yn esiampl dda o’r math o ganlyniadau y gellir eu
cyflawni drwy waith partneriaeth da. Mae’r ddirwy a’r iawndal yn adlewyrchu
nad yw’r troseddau hyn heb eu dioddefwyr, fel y tybir llawer. Dyma ddwyn nodau
masnach y mae cwmnïau’n gwario llawer iawn o arian arnynt iw datblygu, ac mae
hefyd wedi cael effaith andwyol ar y cwmnïau hynny sy’n gwerthu cynhyrchion go
iawn.”
Dywedodd Mike O’Connell, Pennaeth Byd-eang Gwrth-ladrad yn Rubie’s Masquerade
Co. (UK) Ltd:
“Dyma ganlyniad ffantastig arall i’r tîm yn Rubie’s yn ein brwydr yn erbyn
cynhyrchion ffug a’r rhai sy’n eu gwerthu. Hoffem fynegi ein diolch ir holl
swyddogion yn Safonau Masnach Sir y Fflint am eu cefnogaeth a’u cymorth o
gychwyn cyntaf y gweithrediad hwn.
“Mae erlyniadau llwyddiannus fel hyn, yn dangos sut mae masnachwyr twyllodrus
yn cael eu trechu o ganlyniad i gydweithrediad agos rhwng Rubie’s a gorfodaeth
y gyfraith. Gyda’n gilydd, rydym yn brwydro yn ôl yn erbyn y bygythiad cyson o
wisgoedd a theganau ffug.
“Mae ein tîm byd eang yn gweithio’n helaeth ar ganfod a chael gwared ar
gynhyrchion ffug, ar draws pob llwyfan masnachu ac yn y siop.
Os yw unrhyw un yn amau eu bod wedi prynu nwyddau ffug neu fod rhywun yn eu
gwerthu, dylent roi gwybod i Safonau Masnach ar 03454 040506.