Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint a Wrecsam
Published: 13/07/2018
Hoffech chi gael eich llais iw glywed yn y drafodaeth ynglyn â dyfodol
mynediad cyhoeddus yng nghefn gwlad?
Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno a Fforwm
Mynediad Lleol newydd Sir y Fflint a Wrecsam.
Rydym eisiau clywed gan unrhyw un sydd â phrofiad mewn rheoli cefn gwlad, er
enghraifft ffermwyr neu bobl syn defnyddio cefn gwlad yn rheolaidd, er
enghraifft cerddwyr, marchogion, beicwyr neu yrwyr oddi ar y ffordd.
Pwrpas y Fforwm yw cynghori Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint
ynglyn â gwella mynediad ar gyfer pwrpas hamdden awyr agored a mwynhad yr
ardal. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i hawliau tramwy cyhoeddus a hawl
mynediad i dir agored a thir comin.
Mae’r Fforwm yn cyfarfod 4 neu 5 gwaith y flwyddyn, fel arfer yn ystod y dydd.
Mae hwn yn Fforwm Mynediad Lleol sydd yn gweithio ar draws ardal Siroedd Fflint
a Bwrdeistref Wrecsam. Mae’n bwysig fod aelodau yn medru mynychu bob cyfarfod.
Ni does tâl ar gyfer gwaith aelodau’r Fforwm, ond gellir hawlio costau teithio
rhesymol.
Dylai unrhyw berson a hoffai gael ei ystyried fel aelod dderbyn manylion
pellach drwy e-bostio Martin Howarth, Rheolwr Hawliau Tramwy Cyngor Sir Wrecsam
martin.howarth@wrexham.gov.uk neu Tom Woodall, Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd
Naturiol, Cyngor Sir y Fflint, tom.woodall@flintshire.gov.uk.