Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint - Mae Parciau Cefn Gwlad yn ennill Gwobr Baner Werdd
i Gwobr flaenllaw y Faner Werdd
Published: 16/07/2018
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner – marc ansawdd
rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o ansawdd – ar gyfer eleni.
Mae 201 o barciau a mannau gwyrdd, y nifer uchaf erioed, yn cynnwys
prifysgolion, mynwentydd, coetiroedd a rhandir ar draws Cymru, wedi bodloni’r
safonau uchel sydd eu hangen i dderbyn Gwobr flaenllaw y Faner Werdd a Gwobr
Gymunedol y Faner Werdd.
Bydd y baneri yn chwifio yn Hyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra i gydnabod eu
cyfleusterau rhagorol a’r ymrwymiad i gyflwyno mannau gwyrdd o ansawdd gwych.
Mae Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra yn llawn hanes a bywyd gwyllt. Maen nhw’n
leoedd gwerthfawr iawn yn ein cymuned leol ac mae’n fraint derbyn y Wobr hon ar
gyfer 2018/19.
Mae Parc Gwepra yn 160 erw o fan gwyrdd, yng nghanol Cei Connah, Sir y Fflint,
ac mae’n lleoliad unigryw gyda’i amrywiaeth o gynefinoedd a daeareg. Mae
nodweddion y parc yn cynnwys; Gerddi’r Hen Neuadd, Pwll Pysgota, Ffrwd a
Rhaeadr, a Chastell Ewlo i’r cyhoedd eu darganfod.
Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ac mae’n
cynnwys 70 erw o hanes diwydiannol. Yn hanesyddol, roedd Dyffryn Maes Glas yn
cyflogi cannoedd o bobl yn ei ffatrïoedd copr a melinau cotwm ac mae’n fan
gwyrdd agored hyfryd nawr. Mae’r Dyffryn yn gartref i nifer o henebion
rhestredig ac mae’n noddfa i fywyd gwyllt. Mae Parc Gwepra a Dyffryn Maes Glas
yn Barciau o safon y mae Sir y Fflint yn falch ohonynt, ac maen nhw’n hygyrch
i’r gymuned eu harchwilio a’u mwynhau.
Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas;
“Mae’r staff a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn falch iawn o Ddyffryn Maes Glas, un o
drysorau Sir y Fflint, ac mae’n anrhydedd ein bod wedi cyflawni’r wobr hon am
flwyddyn arall. Mae’n Wobr werthfawr iawn ac mae’n adlewyrchu ansawdd ein
mannau gwyrdd lleol. Hoffem annog y gymuned i gyd yr haf hwn i fynd allan i’r
awyr agored a mwynhau ein mannau naturiol. “
Dywedodd y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad;
“Mae’n anrhydedd i ni ennill gwobr y Faner Werdd ar gyfer Dyffryn Maes Glas a
Pharc Gwepra. Mae parciau Sir y Fflint o ansawdd ardderchog ac maen nhw’n rhan
werthfawr o’n cymuned. Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a staff sy’n
gweithio’n galed i gynnal y safonau uchel hyn a chaniatáu i ni chwifio’r ‘Faner
Werdd’. Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt a nodweddion hanesyddol y parciau hyn o
ddiddordeb mawr i breswylwyr a thwristiaeth ac maen nhw’n glod i Sir y
Fflint. Byddwn i’n annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yr haf hwn,
darganfod ein treftadaeth leol ac archwilio ein mannau gwyrdd naturiol.”
Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol,
Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff ei beirniadu
gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sydd yn gwirfoddoli eu hamser i ymweld â
safleoedd sy’n ymgeisio a’u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys
safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad
cymunedol.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus:
“Rydym wrth ein bodd yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall i Wobrau’r Faner
Werdd yng Nghymru. Mae’r 201 o faneri sydd yn chwifio yn dyst i ymroddiad a
brwdfrydedd y staff a’r gwirfoddolwyr ar draws y wlad sydd yn gweithio’n
ddiflino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd.
“Byddwn yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yr haf hwn i fwynhau’r
parciau a’r mannau gwyrdd anhygoel sydd gennym ar drothwy’r drws.”
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus
www.keepwalestidy.cymru/greenflag
Gallwch roi eich parc neu fan gwyrdd ar y map drwy gymryd rhan hefyd. Ewch i
wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru am fwy o wybodaeth.
Nodiadau i Olgddion
1. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: countryside@flintshire.gov.uk 01352703900
or info@greenfieldvalley.com 01352 714172
2. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar 029
20726964 / 07469 118876 neu anfonwch e-bost at lucy.prisk@keepwalestidy.cymru
3. Am gymorth cyfathrebu cysylltwch ag Amy Lloyd ar 029 20726985 / 07875 662803
neu anfonwch e-bost at amy.lloyd@keepwalestidy.cymru
4. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen amgylcheddol gofrestredig sydd yn ceisio
gwella amgylcheddau lleol Cymru. Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth:
www.keepwalestidy.cymru
5. Mae Gwobr y Faner Werdd yn rhoi cydnabyddiaeth i barciau sydd wedi dangos
safonau uchel Gwobr y Faner Werdd. Rhoddir pwyslais hefyd ar gyfranogiad
cymunedol lleol o ran gofal hirdymor y parc sydd wedi cael ei wobrwyo.
6. Mae partneriaeth ar draws y DU sy’n cael ei arwain gan Gadwch Gymru’n Daclus
wedi cael y drwydded i gynnal cynllun Gwobr y Faner Werdd hyd at fis Medi 2017.
Bydd Cadwch Brydain yn Daclus yn rheoli’r cynllun cyffredinol o dan drwydded
gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG) a bydd yn parhau i reoli
gweithrediadau o ddydd i ddydd yn Lloegr, gyda chyflawniad y gwledydd eraill yn
cael ei oruchwylio gan ei chwaer-elusennau Cadwch Gymru’n Daclus, Keep Northern
Ireland Beautiful a Keep Scotland Beautiful.
7. Am fwy o wybodaeth am Wobr y Faner Werdd yng Nghymru ewch i
www.keepwalestidy.cymru/greenflag
8. I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus
www.keepwalestidy.cymru/greenflag neu cysylltwch â Lucy Prisk, Cydlynydd y
Faner Werdd ar 029 20726964 / 07469 118876 neu anfonwch e-bost at
lucy.prisk@keepwalestidy.cymru