Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynhadledd Lansio Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
Published: 19/07/2018
Cynhaliwyd Cynhadledd Lansio Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) Gogledd Cymru yn ddiweddar yn Llandudno.
Caiff yr IAS ei gynnal ar y cyd gan iechyd a gofal cymdeithasol â chysylltiadau cryf ag addysg. Cyniga IAS Gogledd Cymru gefnogaeth ddi-dor ar gyfer unigolion awtistig drwyr newidiadau amrywiol yn eu bywydau, ac maent yn helpu pobl i gyflawnir pethau hynny syn bwysig iddyn nhw. Mae’r gwasanaeth ar gyfer unigolion nad oes ganddynt iechyd meddwl neu anableddau dysgu cymedrol - difrifol.
Cadeiriwyd y digwyddiad ar y cyd gan Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint a Jill Timmins, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Darpariaeth Gwasanaeth yn Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalader.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:
“Rhoddodd y gynhadledd ysbrydoledig hon gyfle i’r 255 o bobl a fynychodd gael cipolwg gwell ar Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru, y gwaith arbennig y maent yn ei wneud, yn ogystal â sut y byddant yn rhyngweithio â gwasanaethau eraill sydd eisoes yn gweithio ag unigolion awtistig a’u teuluoedd ar draws Gogledd Cymru.
“Thema’r pwyllgor yw rhannu profiadau ‘bob oedran’ o awtistiaeth, i helpu gwasanaethau sy’n cefnogi unigolion awtistig i ddeall a helpu gyda’u hanghenion unigolion.”
Clywodd y mynychwyr hefyd gan gynrychiolwyr o’r Tîm ASD Cenedlaethol, partneriaid o IAS Gwent a chydweithwyr y Bwrdd Iechyd o’r gwasanaethau niwroddatblygiad plant. Cyflwynodd y darlithydd ar niwroymarferydd, Dr Dawn Wimpory ganfyddiadau Uned Ymchwil Niwroddatblygiad Prifysgol Bangor ar ddatblygiad plant ac awtistiaeth.
Gwahoddwyd nifer o bobl i rannu eu profiadau, gan gynnwys cyflwyniad ysgogol gan Sharon King, mam plentyn awtistig a drafododd rhianta a galluogi ei phlentyn o’i safbwynt hi. Siaradodd Rosie, ei merch hefyd am ei phrofiadau hi fel oedolyn ifanc ag awtistiaeth. Cyflwynodd Daniel Jones, hefyd yn oedolyn ifanc ag awtistiaeth, yn adfocad awtistiaeth ac awdur, yn ei ddull byrlymol a rhannodd wybodaeth am ei sianel You Tube, The Aspie World.
Chwaraewyd rhai ffilmiau byrion a oedd yn dangos profiadau pobl o awtistiaeth fel oedolion. Yn dilyn hynny, siaradodd Willow Holloway, Is-Gadeirydd Anabledd Cymru a sefydlydd Prosiect Grymuso ‘Y Ferch Awtistig’ am brofiadau oedolion hyn.
Gobeithir y bydd y pwyllgor yn helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau unigolion awtistig ac yn gwella eu cymunedau eu hunain, fel y nododd un or Cynghorwyr Profiadau Ymarferol gall 5% o fewnbwn wneud 100% o wahaniaeth.
Am fwy o wybodaeth, gellir cysylltu ag IAS ar 01352 702090 neu NW.IAS@flintshire.gov.uk. Gellir hefyd ddilyn ein gwasanaeth ar Facebook.