Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhannwch eich Cinior haf hwn
Published: 23/07/2018
Yn ddiweddar, lansiodd Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Gwasanaethau a Reolir Travis Perkins, eu cynllun plant llwglyd yn ystod y gwyliau yn Theatr Clwyd.
Mae’n ddatganiad syfrdanol i’w wneud, ond mae teuluoedd yn Sir y Fflint mewn tlodi bwyd. Tlodi bwyd yw’r anallu i fforddio, neu gael mynediad i, fwyd i greu diet iach. Mae plant yn llwgu gan na all eu rhieni fforddio prynu bwyd.
Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r sefyllfa annerbyniol hon, mae Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid wedi ymuno â "Can Cook" er mwyn lansio rhaglen uchelgeisiol "Rhannwch eich Cinio" gyda’r nod o ddarparu oddeutu 18,700 o brydau am ddim – hyd at 625 pryd y dydd - dros chwe wythnos gwyliau’r haf i 20 o gynlluniau chwarae ar draws Sir y Fflint. Mae hon yn fenter enfawr a’r cyntaf o’i math yn y rhanbarth.
Mae Can Cook yn fenter gymdeithasol yn Lerpwl a gafodd ei sefydlu yn 2007 fel sefydliad bwyd sy’n gweithio gyda phobl sy’n byw yn Ne Lerpwl nad oes ganddynt sgiliau coginio sylfaenol. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth arlwyo bwyd ffres ar gyfer lleoliadau gofal ac addysgol ar draws Glannau Mersi – a bydd hyn yn ymestyn i Sir y Fflint yn fuan. Maent yn arbenigo mewn arlwyo ar gyfer plant â phobl hyn, ac yn darparu gwasanaethau penodol i’r grwpiau hyn yn bennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
"Mae Rhannwch Eich Cinio yn brosiect uchelgeisiol a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gannoedd o bobl yn ein cymuned. Ni ddylai plant orfod llwgu yn yr oes sydd ohoni. Mae hwn yn ymrwymiad aruthrol a'r cyntaf yn y rhanbarth hon. Rydym wedi targedu rhannau o’r Sir lle mae canran uchel o blant yn derbyn prydau ysgol am ddim. Y rheswm am hyn yw fod y plant hyn yn sicr o gael pryd poeth bum diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor ac mae cyfnod y gwyliau haf yn creu her ariannol wirioneddol i’r teuluoedd hyn ac mae’n bosibl fod plant yn mynd heb brydau cytbwys."
Dywedodd Hughie Owen, Rheolwr Prosiect gyda Gwasanaethau a Reolir Travis Perkins, sef prif noddwyr y cynllun:
"Mae Gwasanaethau a Reolir Travis Perkins wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau lleol. Credwn fod plant yn haeddu cael y dechrau gorau mewn bywyd ac ni ddylid caniatáu llwgu yn ystod plentyndod i gael effaith ar iechyd a lles. Mae ymchwil yn dangos fod methu prydau yn rheolaidd yn cael effaith aruthrol ar ymddygiad, lefelau canolbwyntio a datblygiad gwybyddol plant. Mae bwyta prydau iach yn rheolaidd yn galluogi plant i ffynnu, felly rydym wrth ein boddau i gefnogi'r prosiect Rhannwch Eich Cinio."
Mae Robbie Davison o Can Cook a fydd yn darparu’r prydau dros y chwe wythnos nesaf yn angerddol am y prosiect. Dywedodd:
"Gwnaethom gynnal cynllun tebyg yn Lerpwl y llynedd, ond mae’r cynllun hwn yn llawer mwy. Mae’n ffaith drist nad yw 8 o bob deg o'r bobl sy'n llwgu yn y wlad hon yn cael unrhyw gymorth. Rydym ni yma i newid hynny – mae’r cynllun hwn yn arbennig o bwysig gan y bydd pob plentyn yn derbyn y pryd gorau posibl bob dydd yn ystod gwyliau’r ysgol. Dylai pawb sy’n ymwneud â hyn fod yn hynod falch o'r hyn maent yn cyflawni gyda'i gilydd. Mae’n debyg mai dyma’r ymateb mwyaf i blant llwglyd dros y gwyliau yng Nghymru a Lloegr."