Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Erlyniad llwyddiannus o landlord preifat Sir y Fflint
Published: 24/07/2018
Mae Swyddogion Iechyd Yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi erlyn landlord o Sir y Fflint yn llwyddiannus a oedd yn euog o sawl trosedd dan ddeddfwriaeth tai a gynlluniwyd i amddiffyn tenantiaid yn y sector rhentu preifat.
Methodd Hayden Rogers â mynychu’r llys, ond parhawyd â’r achos yn ei absenoldeb a chafodd ei ddyfarnu yn euog o droseddau yn ymwneud ag Old Quay House, ty amlfeddiannaeth (TA) yng Nghei Connah. Cwblhawyd arolygiad aml-asiantaeth o’r eiddo y llynedd.
Barnwyd Mr Rogers yn euog o beidio â meddu ar drwydded TA orfodol a chafodd ddirwy o £2,000. Roedd yn euog o un ar ddeg toriad o Reoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 - dirwy o £1,000 fesul toriad. Gorchmynnwyd hefyd iddo dalu costau Cyngor Sir y Fflint o £2,433 ynghyd â chostau cyfreithiol a statudol, cyfanswm dirwy o £15,633.
Wrth draddodi’r ddedfryd, dywedodd yr Ynad:
“... er gwaethaf y gwelliannau a wnaed nawr ers yr arolygiad cychwynnol, roedd yr amodau a welwyd gan Swyddogion Iechyd Yr Amgylchedd yn frawychus...”
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint:
“Dyma ganlyniad cadarnhaol arall – erlyniad llwyddiannus o landlord yn y sector rhentu preifat na wnaeth gydymffurfio â’r safonau cyfreithiol gofynnol. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat mewn cyflwr da a bod ganddynt yr holl gyfleusterau angenrheidiol."