Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Hamdden yr Wyddgrug

Published: 06/08/2018

Mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, mae Aura Leisure and Libraries Limited yn falch o gyhoeddi bod y cynlluniau ailddatblygu ac ehangu cyfleusterau ffitrwydd Canolfan Hamdden yr Wyddgrug bellach ar agor.

Mae’r datblygiad ffitrwydd newydd yn cynnwys ystafell ffitrwydd gyda mwy na 44 o orsafoedd yn ogystal ag offer ymarferol Origin, 21 o feiciau stiwdio Technogym, dwy stiwdio, ystafelloedd newid newydd, rhaglen newydd o ddosbarthiadau ffitrwydd, yn ogystal â 46 o leoedd parcio ychwanegol.

Mae pris aelodaeth yn cychwyn o gyn lleied â £22 y mis i ddefnyddio’r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug. Mae pecynnau aelodaeth am wahanol brisiau i’ch galluogi i ddefnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Bwcle, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a Phafiliwn Jade Jones y Fflint ar gael hefyd.

Dywedodd Tom Williams, Rheolwr Canolfan Hamdden yr Wyddgrug: 

“Mae’r tîm yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug yn teimlo'n gyffrous dros ben am yr agoriad ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddarparu rhaglen ffitrwydd newydd i aelodau presennol ac aelodau newydd.  Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn ein galluogi i ehangu'r gwasanaethau a ddarparwn i'r gymuned ar hyn o bryd ac i barhau i ateb y galw gan gwsmeriaid o bob oed. Bydd adeiladu stiwdio arall ar y llawr gwaelod ac estyniad ar yr ystafell ffitrwydd yn ein cefnogi i ddarparu gweithgareddau newydd i'r gymuned a'r ddwy ysgol uwchradd gyfagos." 

Ychwanegodd Christine Edwards, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Aura “Mae’r buddsoddiad yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug yn rhan allweddol o strategaeth Aura i fod o fudd i'r gymuned trwy wella safon bywyd trwy ddarparu cyfleoedd diwylliannol a hamdden sy'n gwella iechyd meddwl a lles corfforol."  Mae Aura yn sefydliad dielw sy’n perthyn i weithwyr ac mae’n dymuno parhau i gynyddu ffyrdd o gadw aelodau o’r gymuned yn egnïol.   Mae’r cyfleusterau yn drawiadol a dylai Tîm yr Wyddgrug fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i ddarparu.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Mae’n wych gweld y buddsoddiad cyfalaf mawr hwn yn cael ei gwblhau yn yr Wyddgrug er mwyn gwella cyfleusterau Sir y Fflint.  Rydym yn cydweithio gydag Aura, sy'n golygu, yn hytrach na gorfod ystyried dyfodol rhai o’n canolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd, rydym yn diogelu swyddi ac yn buddsoddi yn ein canolfannau hamdden ar y cyd, i’w gwneud yn well ar gyfer ein preswylwyr.” 

Mae mwy o wybodaeth ar gael am y datblygiadau ffitrwydd newydd ar www.aura.wales ac ar dudalen Facebook Canolfan Hamdden yr Wyddgrug @CanolfanHamddenyrWyddgrug neu hefyd ar dudalen Aura @walesaura

Nodiadau i Olygyddion

Bydd cyfle i dynnu lluniau am 11.45am ddydd Iau 9 Awst 2018 pan fydd yr cyfleuster newydd yn cael ei agor yn swyddogol.