Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
A548 Ffordd Caer, Y Fflint – gwaith concrid i gynnal a chadw ffordd gerbydau
Published: 24/09/2018
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwneud gwaith concrid hanfodol i gynnal a chadw ffordd gerbydau ar yr A548 Ffordd Caer, Y Fflint. Mae’r gwaith yn cynnwys gwaith trwsio concrid ar ffordd gerbydau ac yna gosod troshaen denau ar y wyneb. Bydd y prosiect yn dechrau ddydd Llun 1 Hydref a disgwylir iddo gael ei gwblhau cyn pen 6-8 wythnos.
Er mwyn hwyluso’r gwaith bydd cyfyngiad un ffordd dros dro mewn lle yn gwahardd cerbydau rhag teithio tuag at Oakenholt o'r Fflint, o'i chyffordd â Stryd Yr Eglwys. Bydd y cyfyngiad unffordd yn ei le dros gyfnod y gwaith er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y briffordd a’r gweithlu sy’n gwneud y gwaith.
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio trwy’r A5119, A55(T) a’r A494(T) a bydd llwybr gwyro eilradd (system unffordd) ar gyfer traffig lleol trwy Stryd y Capel a Prince of Wales Avenue. Bydd modd cael mynediad i eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol presennol, rydym yn falch ein bod wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith gwella pwysig ac angenrheidiol hwn i’n ffyrdd sy’n dangos pa mor bwysig yw cynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd i’r Cyngor hwn.
“Mae’r Cyngor a’r contractwr sy’n ymgymryd â’r gwaith, Alun Griffiths Ltd, yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw oedi ac amhariadau a achosir o ganlyniad i’r gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn. Mae’r gwaith wedi cael ei amseru er mwyn osgoi’r prif gyfnod gwyliau a chyfnodau prysur cyn y Nadolig, fodd bynnag, gwn y bydd yn peri anghyfleustra i bobl leol tra bo’r gwaith yn cael ei gwblhau. Wedi dweud hynny, mae’n hanfodol bod y gwaith yn cael ei wneud a bydd y contractwyr yn gweithio bob diwrnod o’r wythnos i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gwblhau cyn gynted ag sy’n bosibl”.