Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Galw Heibio i roi Gwybodaeth i'r Cyhoedd
Published: 10/10/2018
Grant Diogelwch ar y Ffyrdd – Ffordd yr Wyddgrug, Ffordd Llanarth a’r Stryd Fawr, Cei Connah
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ar y ffyrdd ar Ffordd yr Wyddgrug, Ffordd Llanarth a’r Stryd Fawr yng Nghei Connah.
Hoffai Cyngor Sir y Fflint groesawu trigolion i Ddigwyddiad Galw Heibio i roi Gwybodaeth i’r Cyhoedd, lle bydd Swyddogion y Cyngor ar gael i siarad am y cynigion ac ateb cwestiynau. Mae’r dyddiadau a’r lleoliad fel a ganlyn:
Cyngor Tref Cei Connah, Swyddfeydd Cyngor y Dref, Adeilad y Cei, Ffordd Fron, Cei Connah, Sir y Fflint, CH5 4PJ
Ddydd Iau 11 Hydref 2018 rhwng 3pm a 7pm.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, sef yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad:
“Bydd y cynllun yn gwella diogelwch a hygyrchedd i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd, yn ogystal â darparu budd i'r gymuned leol drwy ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau ardal Cei Connah.”
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad galw heibio, cysylltwch â Strydwedd ar 01352 701234.