Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwneud bwyd iach a blasus yn hawdd - darganfyddwch sut ym marchnad yr Wyddgrug
Published: 17/10/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn mynd i’r afael a thlodi bwyd.
Yn ystod yr haf, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn, gweithredodd y Cyngor gynllun “Rhannwch eich Cinio” a welodd 14,500 o brydau poeth, llawn maeth yn cael eu gweini mewn cylchoedd chwarae ar draws y Sir. Darparwyd y prydau gan “Can Cook”, menter gymdeithasol yn Lerpwl sy’n darparu gwasanaeth arlwyo bwyd ffres.
Er mwyn parhau â’r fenter uchelgeisiol a llwyddiannus hon, bydd y Cyngor ym marchnad yr Wyddgrug ym mis Tachwedd a Rhagfyr er mwyn hyrwyddo bagiau ar gyfer y grochan araf gan Can Cook. Mae’r bagiau o safon yn dod gyda 10 rysáit blasus a chynhwysion wedi eu paratoi yn barod. Cost bag ar gyfer dau berson yw £4.50 ac mae bag i'r teulu yn £5.50.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Janiene Davies ar 1352 704430 neu anfonwch e-bost at janiene.davies@flintshire.gov.uk.
Dyddiadau 17, 21, 24 a 28 Tachwedd ac 1, 5, ac 8 Rhagfyr.