Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybr llwyddiannus i fyd arlwyo
Published: 31/10/2018
Mae Cymunedau dros Waith Sir y Fflint yn dathlu llwyddiant dau o’u cyn-“ddisgyblion” a fynychodd gwrs “Llwybr i fyd Arlwyo” y llynedd, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn.
Rhoddodd y cwrs gyfle i drigolion lleol ennill hyfforddiant, sgiliau a phrofiad ym meysydd arlwyo a swyddogaethau domestig.
Cafodd Janet Bentley ei chyfeirio at Cymunedau dros Waith gan y ganolfan waith, ac Alex Jones drwy’r swyddog cyswllt rhieni yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint. Nid oedd yr un o’r ddau wedi gweithio ers rhai blynyddoedd pan aethant ar y cwrs Llwybr Arlwyo gan ennill nifer o gymwysterau yn cynnwys hylendid bwyd, codi a symud corfforol, iechyd a diogelwch a gwasanaeth cwsmeriaid.
Yn ystod y 12 mis ers cwblhau’r cwrs Llwybr, mae Janet ac Alex ill dau wedi derbyn cefnogaeth gan fentor. Roedd modd i’r ddau gwblhau lleoliadau gwaith yng Nghaffi’r Hen Lys yn Y Fflint, Llys Eleanor yn Shotton, ac yn adran arlwyo Hamdden Aura.
Mae’r ddau bellach wedi sicrhau swyddi yng nghyfleuster newydd sbon Llys Raddington yn y Fflint.
Meddai Alex:
“Roedd y mentora a’r profiad gwaith yn dilyn y cwrs yn wych, ac roedd o gymorth mawr i mi wrth wella fy CV a sicrhau profiad gwaith diweddar. Mae fy hyder ac fy sgiliau wedi cynyddu’n aruthrol.”
Dywedodd Janet:
“Mae’r profiad cyfan wedi bod mor gadarnhaol ac wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Rwyf wedi ennill cymwysterau a sgiliau ac mae gen i bellach swydd fel cymhorthydd arlwyo yn y gyfleuster newydd arbennig yma yn y Fflint.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Y Fflint dros Ddatblygiad Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler:
“Mae hon yn stori newyddion wirioneddol dda sydd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau fel Cyngor Sir Y Fflint a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd. Nid yn unig y mae’r merched hyn wedi ennill cymwysterau a phrofiadau gwerthfawr, ond maent wedi cael eu cefnogi wrth ddychwelyd i fyd gwaith.”
Meddai Lisa Ramage, Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu Grwp Tai Pennaf, sydd yn cynnwys Cymdeithas Tai Clwyd Alyn:
“Rydym wrth ein boddau i fod yn cefnogi’r fenter arbennig hon trwy ddarparu lleoliadau gwaith gyda’n cynlluniau amrywiol, lle y gall y sawl sydd dan hyfforddiant gynyddu eu hyder a’u sgiliau ymarferol er mwyn ychwanegu at eu CV a thrafod mewn cyfweliadau.
“Mae’n deyrnged i bawb sydd ynghlwm â’r gwaith – gan gynnwys y rhai dan hyfforddiant, ein rheolwyr cynllun a Groundwork Gogledd Cymru, a ddarparodd yr hyfforddiant arbennig – y bu canlyniad mor llwyddiannus.
“Rydym yn falch iawn o fod â Janet ac Alex fel rhan o'r tîm yn Llys Raddington. Dymunwn y gorau iddynt ac hoffem eu llongyfarch ar eu gwaith caled.”
Mae Cymunedau dros Waith yn raglen gan Lywodraeth Cymru sydd yn gweithio i gefnogi, uwchsgilio a chynnig profiadau i unigolion a fydd yn helpu i wella eu cyfleoedd cyflogaeth.
Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sydd yn gweithredu ar draws chwe sir yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
Nia Parry a Debbie Barker Cymunedau am Waith a Mwy, Alex a Janet, Lisa Ramage a Carol Thomas
Y Bwyty