Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant yn y Diwrnod Agored Priodasau cyntaf
Published: 13/11/2018
Croesawyd ymwelwyr ar ddiwrnod hydrefol bendigedig i neuadd hardd Llwynegrin ar gyfer y Diwrnod Agored Priodasau cyntaf.
Roedd y digwyddiad yn arddangos y lleoliad priodasau bendigedig hwn a lleoliadau priodasau trwyddedig eraill Sir y Fflint. Roedd ystod o gyflenwyr priodasau arbenigol yn bresennol yn y digwyddiad.
Wrth iddynt gyrraedd y lleoliad, roedd cyfle i ymwelwyr weld amrywiaeth o gludiant priodas o geirw a char llusg i Faniau campio a cheir Daimler, i sicrhau eich bod yn cyrraedd mewn steil i'ch lleoliad priodas! Ar gyfer digwyddiadau unigryw, roedd tipi ar y tir wedi'i amgylchynu gan goed aeddfed.
Tu mewn i’r neuadd, roedd cyflenwyr ffrogiau a siwtiau priodas, ffotograffwyr, pobyddion cacennau, trefnwyr blodau, telynorion, cwmnïau propiau clasurol a phecynnau pampro yn bresennol i roi gwybod am y gwasanaethau maent yn eu darparu.
Rhoddodd araith fyrfyfyr gan un o’r ffotograffwyr farn ffotograffydd am y neuadd, a soniodd yn frwd am helaethrwydd y goleuni naturiol sy’n ffrydio i mewn i’r neuadd, dim ots pa amser o’r dydd neu pa adeg o’r flwyddyn oedd hi.
Dywedodd un o’r stondinwyr:
“Cefais amser gwych! Rwyf wedi cael un archeb ond wedi cyfeirio tri dyddiad i gydweithiwr gan fod fy ngwasanaeth wedi’i archebu ar y dyddiadau roedden nhw’n dymuno eu cael, ond mae hynny’n galonogol iawn! Roeddwn yn teimlo fy mod wedi siarad â llawer o bobl ac mae’r cyflenwyr wedi bod mor gefnogol – dwi’n teimlo ar ôl i chi gael un ffair, byddwch yn naturiol yn ennill cefnogwyr!"
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint:
“Ar ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn ddiolch i’r holl ymwelwyr a’r cyflenwyr priodasau am wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac mae pob un ohonom yn edrych ymlaen am y nesaf."
I gael gwybodaeth am Gofrestrwyr Sir y Fflint, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 neu Registrars@flintshire.gov.uk.