Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canol Tref Treffynnon
Published: 19/11/2018
Bydd cais i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi cynnig i dynnu Gorchymyn Parth Cerddwyr o Stryd Fawr Treffynnon yn barhaol pan maent yn cyfarfod ar 20 Tachwedd.
Mae gan Ganol Tref Treffynnon barth penodol i gerddwyr ar y Stryd Fawr, a bu cryn ddadlau dros y blynyddoedd ynghylch yr effaith y cafodd y trefniant ar fusnesau’r Stryd Fawr, oherwydd nid oes modd i siopwyr daro heibio am ymweliad sydyn neu gasglu eitemau siopa yn hawdd.
Ym mis Gorffennaf, derbyniodd Gyngor Sir y Fflint ddeiseb, a arwyddwyd gan dros 500 o breswylwyr a busnesau yn Nhreffynnon, yn gwneud cais i dynnu’r Gorchymyn Parth Cerddwyr, gan ganiatáu i draffig gael mynediad i ganol y dref, a sicrhau bod lleoedd parcio am ddim ac arhosiad byr yn y dref. Cytunodd y Cyngor ar gyflwyniad peilot o drefniant nad oedd yn cynnwys parth cerddwyr ar y stryd fawr, sy’n dod i ben fis Rhagfyr.
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Mae’r Cyngor wedi gweithio gyda Chyngor Tref Treffynnon ac wedi cytuno ar gyfnod prawf i dynnu’r Gorchymyn fel y gellir cynnal asesiad ar fudd tynnu’r Gorchymyn yn barhaol.
Er bod y cyfnod prawf ar fin dod i ben ar ôl y Nadolig, cynhaliwyd adolygiad 6 mis o’r effaith, a daeth i’r casgliad bod budd lleol a chefnogaeth i dynnu’r Gorchymyn yn barhaol. Mae Cyngor y Dref felly, yn cefnogi diddymu’r Gorchymyn.”
Oherwydd nad oes nawdd ar gael i gynnal y gwaith angenrheidiol sydd wedi’i amcangyfrif i fod yn £800,000, gofynnir i'r Cabinet gytuno bod swyddogion y Cyngor yn cydweithio gyda Chyngor y Dref a busnesau lleol i nodi nawdd posib ar gyfer y cynllun.
Pan fydd y cyfnod peilot yn dod i ben ym mis Ionawr, bydd angen adfer y Gorchymyn Parth Cerddwyr gwreiddiol oherwydd ni all y gwaith ffordd presennol gynnal effeithiau tymor hir y traffig yn ei gyflwr presennol. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio cydweithio i ddod o hyd i nawdd ar gyfer y gwaith, ac i’w gynnal cyn gynted â phosib.