Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mannau Chwarae i Blant
Published: 19/11/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu dau argymhelliad gan Aura Leisure and Libraries (Aura) am arian cyfatebol ar gyfer ardaloedd chwarae i blant pan fydd yn cyfarfod ar 20 Tachwedd.
Mae’r cynllun llwyddiannus o roi arian cyfatebol ar gyfer ardaloedd chwarae, sydd ar fynd ers naw mlynedd, wedi’i gynnal ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a chynghorau tref a chymuned ac mae wedi buddsoddi mewn dros 100 o ardaloedd chwarae dros yr wyth mlynedd ddiwethaf.
Mae Aura, sy’n rheoli gwaith archwilio a chynnal a chadw’r 162 o ardaloedd chwarae sydd gan y Cyngor, wedi derbyn 23 datganiad o ddiddordeb gan gynghorau tref a chymuned am gyfanswm o £168,000 ar gyfer 2018/19. Mae’r Cyngor Sir wedi dyrannu cyfanswm o £105,000 yn ei gyllideb refeniw, sy’n gadael diffyg o £63,000.
Er mwyn cyfateb yr arian sydd wedi’i addo gan gynghorau tref a chymuned, mae argymhelliad o blaid i'r Cabinet gymeradwyo'r £63,000 ychwanegol o weddill y cyllid cyfalaf sydd wedi'i ddyrannu i ardaloedd chwarae ac sy'n cael ei ddefnyddio i wella’r ardaloedd chwarae y mae dal angen buddsoddi ynddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
“Mae’r buddsoddiad hwn gan y cynghorau tref a chymuned a'r Cyngor Sir yn dangos bod y bartneriaeth yn un gryf ac mae'n glod i bob un sydd ynghlwm bod y llwyddiant yn parhau o un flwyddyn i’r llall. Mae’r Cyngor yn ymrwymo i weithio gyda chynghorau tref a chymuned i gynnal ein gwasanaethau a’n cyfleusterau lleol, gan gynnwys parciau chwarae.”
Dywedodd Bob Tarry, Is-gadeirydd Aura:
“Mae ymrwymiad a brwdfrydedd parhaus Cyngor Sir y Fflint a chynghorau tref a chymuned o ran gwella ardaloedd chwarae i blant yn arbennig. Dros y misoedd nesaf, bydd Aura’n gweithio'n agos gyda chynghorau tref a chymuned i ddylunio a gweithredu cynlluniau sy'n cyd-fynd â'u huchelgeisiau nhw ac sy'n ychwanegu gwerth aruthrol at yr ardaloedd chwarae sy'n bod eisoes. Mae gwell darpariaeth chwarae’n allweddol i sicrhau bod plant yn gwneud ymarfer corff o oed ifanc ac mae hyn yn cyfrannu at weledigaeth Aura – mwy o bobl, meddyliau a chyrff mwy actif, yn fwy aml.”